Prosesu ceisiadau gan etholwyr tramor

Mae'r adran hon yn cynnwys canllawiau ar y camau y dylech eu cymryd fel Swyddog Cofrestru Etholiadol i brosesu cais newydd i gofrestru fel etholwr tramor. Mae dau fath o ddull dilysu y mae'n rhaid eu cynnal cyn y gallwch benderfynu ar gais. 
Rhaid i chi wneud y canlynol:

  • cadarnhau bod yr ymgeisydd yn bodloni'r amod o fod wedi'i gofrestru'n flaenorol yn y cyfeiriad a ddarparwyd yn ei gais, neu ei fod yn arfer byw yno 
  • cadarnhau pwy yw'r ymgeisydd 

Bydd yr ymgeisydd naill ai wedi darparu cyfeiriad lle roedd wedi'i gofrestru'n flaenorol  neu gyfeiriad lle roedd yn arfer byw . 

Mae'r adran hon yn rhoi canllawiau ar y wybodaeth y gallwch ei defnyddio i fod yn fodlon bod yr ymgeisydd yn gymwys o dan y naill amod neu'r llall, a sut y dylech gadarnhau pwy yw ymgeisydd.

Dylid prosesu pob cais a datganiad, gan gynnwys unrhyw dystiolaeth ddogfennol, cyn gynted â phosibl ar ôl eu cael.

Os byddwch yn cael cais lle mae'r cyfeiriad cymwys y tu allan i'ch ardal, dylech ei anfon ymlaen at y Swyddog Cofrestru Etholiadol perthnasol yn ddi-oed.

Nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol i gais gael ei gydnabod, er bod disgresiwn gennych i anfon cydnabyddiaeth os dymunwch. Ym mhob achos, mae'n ofynnol i chi anfon cadarnhad o ran a fu'r cais yn llwyddiannus ai peidio. Mae ein canllawiau ar gadarnhau ceisiadau a datganiadau yn cynnwys rhagor o wybodaeth am hyn. 
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Rhagfyr 2023