Etholwyr tramor dienw

Gall person wneud cais i fod yn etholwr tramor dienw os yw'n bodloni'r cymwysterau ar gyfer cofrestru etholwr tramor a chofrestru etholwr dienw.1  

Rhaid i etholwyr domestig dienw ailymgeisio i gofrestru yn flynyddol. Fodd bynnag, gan fod hawl etholwr tramor yn para am dair blynedd, gall etholwyr tramor sy'n dymuno cofrestru'n ddienw ailymgeisio am gofnod dienw ar y gofrestr bob blwyddyn heb orfod ailymgeisio i gofrestru fel etholwr tramor.  2

Rhaid i etholwyr dienw ddarparu eu cyfeiriad cymhwyso ar gyfer eu cais tramor yn eu cais i gael eu cofrestru’n ddienw.  

Gellir cyflwyno ceisiadau cofrestru dienw yn electronig (drwy e-bost) ond ni ellir eu cyflwyno trwy'r porth gwneud ceisiadau ar-lein. Fodd bynnag, rhaid i bob adnewyddiad dienw gynnwys llofnod inc gwlyb o hyd. Ni cheir defnyddio llofnodion digidol, fel y'u hysgrifennwyd gan stylus neu ddyfais debyg. 

Bydd etholwyr tramor dienw yn cael eu rhestru yn wahanol yn y gofrestr i etholwyr tramor eraill. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar sut mae etholwyr dienw yn ymddangos yn y gofrestr. 

I gael rhagor o wybodaeth am ofynion cofrestru dienw, gweler ein canllawiau ar etholwyr dienw . 
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Rhagfyr 2023