Sut i wneud cais newydd i gofrestru fel etholwr tramor
Gall unigolion wneud cais newydd i gofrestru fel etholwr tramor:
ar-lein trwy wefan y llywodraeth ganolog - www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio
drwy ddarparu'r wybodaeth angenrheidiol yn ysgrifenedig (e.e. ar ffurflen gais bapur)
dros y ffôn (os ydych yn cynnig y gwasanaeth)
Ceisiadau ar-lein
Cynhelir y porth ar gyfer gwneud cais ar-lein ar GOV.UK. Os oes gennych gyfeiriad e-bost ar gyfer darpar etholwr gallech, yn y lle cyntaf, ei ddefnyddio i’w annog i gyflwyno cais ar-lein neu i gyhoeddi cais drwy ddulliau electronig.
Gall etholwyr tramor presennol sy'n adnewyddu eu cofrestriad ddarparu eu datganiad mewn unrhyw fformat, felly mae llythyr, e-bost neu ffurflen gais bapur yn dderbyniol.1
Mae ein canllawiau ar y broses adnewyddu ar gyfer etholwyr tramor presennol yn cynnwys rhagor o wybodaeth am hyn.
Ceisiadau papur
Rydym yn cynhyrchu ffurflenni cais etholwyr tramor argraffadwy y gallwch eu defnyddio. Cânt eu cyhoeddi ar ein gwefan ac ar GOV.UK. Rydym hefyd yn darparu fersiynau o'r ffurflenni mewn amrywiaeth o fformatau hygyrch megis print bras a hawdd ei ddarllen.
Ceisiadau dros y ffôn
Er budd a hwylustod etholwyr, dylech gynnig y gwasanaethau hyn lle bynnag y bo modd. Bydd hyn hefyd yn eich helpu i gyflawni eich dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gan y bydd pobl a allai gael anawsterau wrth gwblhau cais papur neu gais ar-lein yn cael cyfle i wneud cais heb fod angen darparu’r wybodaeth yn ysgrifenedig.
Os na allwch ddarparu ceisiadau dros y ffôn i bawb, gallwch ganiatáu’r rhain yn ôl eich disgresiwn mewn rhai amgylchiadau, a dylech wneud hynny i gynorthwyo ymgeiswyr anabl er mwyn helpu cynifer o etholwyr â phosibl i gofrestru i bleidleisio ac i fodloni rhwymedigaethau cydraddoldeb.