Adnewyddu datganiadau tramor

Bydd datganiad adnewyddu yn cadarnhau bod y manylion sydd ar y gofrestr etholiadol yn gywir a bydd hefyd yn rhoi cyfle i etholwyr tramor ddiweddaru eu manylion gohebu.

Nid yw'n ofynnol i chi gadarnhau manylion etholwr sy'n gwneud datganiad adnewyddu.
 
Ar ôl i etholwr tramor gael ei gofrestru, ni all wneud cais newydd, oni bai bod ei hawl i gofrestru fel etholwr tramor wedi dod i ben. Os bydd etholwr tramor cofrestredig yn gwneud cais newydd cyn i'w gofrestriad ddod i ben, dylech ofyn iddo gwblhau datganiad adnewyddu yn lle hynny. 

Rhaid i ddatganiad adnewyddu gael ei wneud yn ysgrifenedig a rhaid iddo gynnwys:

  • Enw llawn yr ymgeisydd 
  • Dyddiad geni'r ymgeisydd
  • Datganiad bod yr ymgeisydd yn ddinesydd Prydeinig
  • Datganiad nad yw'r ymgeisydd yn byw yn y DU ar ddyddiad y datganiad
  • Datganiad o wirionedd
  • Ei gyfeiriad cymwys (cofrestredig)
  • Ei gyfeiriad tramor (presennol)
  • Datganiad yn cadarnhau, ers iddo gael ei gofrestru mewn perthynas â'i gyfeiriad cymwys, nad oes cofnod arall wedi cael ei wneud mewn unrhyw gofrestr etholiadol mewn unrhyw gyfeiriad
  • Datganiad yn cadarnhau ei fod yn ymwybodol bod darparu gwybodaeth ffug1  yn drosedd
  • Dyddiad y datganiad
     

Rhaid gwrthod datganiad sy'n dod i law fwy na thri mis ar ôl iddo gael ei ddyddio.2  Dylid hysbysu'r ymgeisydd a'i wahodd i gyflwyno datganiad newydd.

Gall datganiad adnewyddu gynnwys cyfeiriad e-bost a rhif ffôn yr ymgeisydd hefyd, ond nid yw'r rhain yn ofynnol. Nid oes angen llofnod.

Ni all etholwyr ddefnyddio'r gwasanaeth gwneud cais ar-lein i adnewyddu eu datganiad.

Mae cais i adnewyddu a wneir drwy lythyr, e-bost neu ffurflen gais bapur yn dderbyniol. Nid yw ffurflenni datganiadau adnewyddu wedi'u rhagnodi, ond rhaid iddynt gynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol. Nid yw'n ofynnol i etholwyr ddarparu llofnod ar gyfer datganiad adnewyddu.

Rydym yn cynhyrchu ffurflenni y gellir eu hargraffu o ddatganiadau adnewyddu i chi eu defnyddio. Caiff y ffurflenni hyn eu cyhoeddi ar ein gwefan.
 
Os byddwch yn cael datganiad adnewyddu ysgrifenedig nad yw wedi'i gyflwyno ar ffurflen datganiad adnewyddu, dylech gadarnhau ei fod yn cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol. Os bydd yn anghyflawn, dylech gysylltu â'r etholwr a gofyn am y wybodaeth sydd ar goll. 

Bydd y cyfnod adnewyddu yn cychwyn ar ddechrau 6 mis olaf hawl bresennol etholwr tramor.3
  
Cyn belled â bod datganiad adnewyddu yn cael ei wneud o fewn 6 mis olaf ei ddatganiad presennol, gall hawl etholwr tramor gael ei hadnewyddu am dair blynedd arall.

Etholwyr tramor presennol sy'n gwneud cais y tu allan i'r cyfnod adnewyddu

Os bydd etholwr tramor presennol yn cyflwyno cais newydd y tu allan i'w gyfnod adnewyddu, rhaid gwrthod y cais. Fodd bynnag, efallai yr hoffech ystyried y rheswm pam mae'r etholwr wedi gwneud y cais, er enghraifft, a yw'r etholwr wedi symud neu newid ei wybodaeth gyswllt, neu a oes angen iddo newid ei drefniant pleidleisio absennol, a chysylltu ag ef i roi gwybod iddo beth y gall ei wneud i adnewyddu ei gofrestriad. 

Y cylch adnewyddu tair blynedd

Daw datganiadau etholwyr tramor i ben ar y trydydd 1 Tachwedd ar ôl y dyddiad pan ddaw cofnod yr unigolyn ar y gofrestr yn weithredol am y tro cyntaf.4   Bydd angen i chi gadw cofnod yn dangos pryd mae angen anfon hysbysiadau atgoffa.

Fel enghraifft, os caiff unigolyn ei gynnwys am y tro cyntaf ar y gofrestr ar 1 Mawrth 2024, daw ei ddatganiad i ben ar 1 Tachwedd 2026. Os bydd yn adnewyddu o fewn 6 mis olaf ei ddatganiad sy'n dod i ben ar 1 Tachwedd 2026, byddai'n dod i ben nesaf ar 1 Tachwedd 2029. Fodd bynnag, os caiff unigolyn ei gynnwys am y tro cyntaf ar y gofrestr ar 1 Rhagfyr 2024, byddai ei ddatganiad yn dod i ben ar 1 Tachwedd 2027. Os bydd yn ei adnewyddu o fewn y 6 mis olaf cyn iddo ddod i ben, byddai ei hawl yn dod i ben nesaf ar 1 Tachwedd 2030. Mae'r tabl hwn yn cynnwys rhai enghreifftiau wedi'u cyfrifo:

Tro cyntaf ar y gofrestrDatganiad yn dod i ben Penderfyniad adnewyddu  Datganiad yn dod i ben
1 Mawrth 20241 Tachwedd 20261 Medi 20261 Tachwedd 2029
1 Rhagfyr 20241 Tachwedd 20271 Medi 20271 Tachwedd 2030
1 Ionawr 2025 1 Tachwedd 20271 Medi 20271 Tachwedd 2030

Rhaid i bob datganiad adnewyddu gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol cyn pen 3 mis ar ôl iddo gael ei wneud er mwyn iddo fod yn ddilys.5  

Ni all etholwyr tramor ddiweddaru na newid eu henw fel rhan o'r broses adnewyddu. Rhaid iddynt ddefnyddio'r broses newid enw ar wahân.  

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Rhagfyr 2023