Tynnu pleidleiswyr post ar gyfer etholiadau Senedd y DU ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu o'r rhestrau a'r cofnodion pleidleisio absennol pan fydd eu hawl wedi dod i ben
Os nad ydych wedi cael cais newydd mewn ymateb i hysbysiad ailymgeisio am bleidlais bost, erbyn y dyddiad y daw'r trefniant i ben, rhaid i chi fynd ati, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, i dynnu'r cofnod ar gyfer etholiadau Senedd y DU ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu o'r cofnodion pleidleisio absennol a'r rhestr berthnasol (y rhestr pleidleiswyr post, neu'r rhestr dirprwyon sy'n pleidleisio drwy'r post).1
Rhaid i chi hefyd dynnu cofnod yr unigolyn hwnnw o'r cofnod perthnasol o geisiadau am bleidlais absennol a ganiatawyd.
Fodd bynnag, mae'n rhaid i chi gadw llofnod a dyddiad geni'r etholwr a ddarparwyd yn flaenorol ar y cofnod o ddynodyddion personol am 12 mis o'r dyddiad y cafodd enw'r etholwr ei dynnu o'r cofnod o geisiadau a ganiatawyd.2
Mae'n rhaid i chi roi gwybod i'r etholwr yn ysgrifenedig fod ei bleidlais absennol wedi cael ei diddymu.
esbonio bod pleidlais absennol yr unigolyn wedi cael ei diddymu am nad oes cais newydd wedi dod i law, ac os yw'n dymuno pleidleisio yn etholiadau Senedd y DU ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, dim ond mewn gorsaf bleidleisio y gall wneud hynny bellach
rhoi gwybod iddo ble mae ei orsaf bleidleisio
ei atgoffa y gall wneud cais newydd am bleidlais bost
Os caiff enw dirprwy sy'n pleidleisio drwy'r post ei dynnu o'r cofnod a'r rhestr dirprwyon sy'n pleidleisio drwy'r post, gallwch hefyd ysgrifennu at yr etholwr a benododd y dirprwy ac esbonio er bod y penodiad dirprwy'n weithredol o hyd (ar yr amod nad yw'r etholwr wedi colli ei hawl i bleidleisio drwy ddirprwy hefyd), mae'n rhaid i'w ddirprwy fynd i orsaf bleidleisio'r etholwr i bleidleisio ar ei ran bellach, neu wneud cais newydd am bleidlais bost.4