Angen darparu llofnod newydd ar ôl hysbysiad gwrthod
Os ydych wedi anfon hysbysiad gwrthod ar y sail nad yw'r llofnod a ddarparwyd ar y datganiad pleidleisio drwy'r post a ddychwelwyd yn cyfateb i'r enghraifft a gedwir ar y cofnod o ddynodyddion personol ar gyfer y math hwnnw o etholiad (a bod yr unigolyn yn parhau i ymddangos ar y cofnod hwnnw fel pleidleisiwr absennol), efallai y bydd angen i'r pleidleisiwr absennol roi llofnod newydd i chi ar gyfer y cofnod o ddynodyddion personol. Gellid gwneud hyn ar yr un pryd ag y byddwch yn anfon yr hysbysiad gwrthod.1
Os bydd angen i'r pleidleisiwr absennol roi llofnod newydd i chi, mae'n rhaid i chi roi gwybod iddo am y dyddiad (chwe wythnos i ddyddiad yr hysbysiad) pan na fyddai'n gymwys i bleidleisio drwy'r post mwyach am ei fod wedi methu â darparu llofnod newydd, neu wedi gwrthod gwneud hynny.2
Os na fydd y pleidleisiwr absennol wedi ymateb i'r hysbysiad o fewn tair wythnos i'r dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad, rhaid i chi anfon hysbysiad atgoffa ato, sef copi o gynnwys yr hysbysiad gwreiddiol.3
Rhaid i'r hysbysiad ac unrhyw hysbysiad atgoffa gael ei anfon i gyfeiriad cyfredol neu gyfeiriad hysbys diwethaf y pleidleisiwr absennol, a rhaid cynnwys amlen ymateb ragdaledig barod ar gyfer unrhyw gyfeiriad yn y Deyrnas Unedig4
Mae'n bwysig bod gennych drywydd archwilio clir ar gyfer y broses hon gan fod y dyddiad a nodir ar yr hysbysiad a anfonir at y pleidleisiwr absennol yn pennu a yw'r pleidleisiwr wedi methu â darparu llofnod newydd, neu wrthod gwneud hynny, o fewn y terfyn amser penodedig. Os na fydd wedi ymateb erbyn y terfyn amser, rhaid i chi wneud y canlynol:5
tynnu cofnod yr unigolyn hwnnw o'r rhestr pleidleiswyr post neu'r rhestr pleidleiswyr sy'n pleidleisio drwy ddirprwy, fel y bo'n briodol
os bydd unigolyn wedi cael ei dynnu o'r rhestr dirprwyon sy'n pleidleisio drwy'r post, rhaid i chi roi gwybod i'r etholwr hefyd
Bydd gan rai pleidleiswyr absennol yng Nghymru ddau gofnod pleidleisio absennol ar gyfer y mathau gwahanol o etholiadau. Fel rhan o reoli hysbysiadau gwrthod pleidlais bost ar gyfer un math o etholiad, dylech ystyried sut i sicrhau y caiff unrhyw broblemau dichonadwy gyda’r cofnod arall eu nodi hefyd.