Hysbysiad diddymu pleidlais absennol

Mae'n rhaid i chi roi gwybod i'r unigolyn yn ysgrifenedig fod ei bleidlais absennol wedi cael ei diddymu. Rhaid i'r hysbysiad wneud y canlynol:  

  • esbonio bod ei bleidlais absennol wedi cael ei diddymu am ei fod wedi methu â darparu llofnod newydd
  • esbonio mai dim ond mewn gorsaf bleidleisio y gall bleidleisio yn y math hwnnw o etholiad yn y dyfodol os yw'n dymuno gwneud hynny, a rhoi gwybod iddo ble mae ei orsaf bleidleisio
  • esbonio y gall wneud cais newydd am bleidlais absennol, y mae'n rhaid iddo gynnwys ei ddynodyddion

Rhaid i'r hysbysiad hefyd nodi bod hawl ganddo i apelio yn erbyn eich penderfyniad a nodi sut y gellir apelio.

Gall pleidleisiwr post sydd wedi cael hysbysiad gwrthod dynodyddion pleidlais bost wneud cais i weld ei ddatganiad pleidleisio drwy'r post. Mae mwy o wybodaeth am archwilio hysbysiadau gwrthod dynodyddion pleidleisiau post ar gael yn ein cwestiynau cyffredin ar gyfer hysbysiadau gwrthod pleidlais bost:

Rydym hefyd wedi llunio hysbysiadau gwrthod pleidlais bost enghreifftiol y gallech eu defnyddio. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Tachwedd 2024