Apeliadau yn erbyn diddymu pleidlais absennol ar ôl hysbysiad gwrthod dynodyddion pleidlais bost
Mae'n rhaid i unrhyw un sy'n dymuno apelio anfon hysbysiad atoch o fewn 14 diwrnod i ddyddiad eich penderfyniad i ddiddymu ei bleidlais bost ac mae'n rhaid iddo nodi sail yr apêl.1
Ystyrir mai dyddiad yr hysbysiad gwrthod yw dyddiad eich penderfyniad.
Mae'n rhaid i chi anfon yr hysbysiad apelio ymlaen i'r llys sirol ar unwaith gyda datganiad yn cynnwys y canlynol:2
y ffeithiau perthnasol a sefydlwyd yn yr achos, yn eich barn chi
eich penderfyniad ynghylch yr achos cyfan
unrhyw bwynt y gellid ei nodi fel sail apêl
Os oes sawl apêl, a phob un ohonynt â'r un sail neu sail debyg, mae'n rhaid i chi roi gwybod i'r llys er mwyn i'r apeliadau gael eu cyfuno, os yw'n briodol, neu, fel arall, er mwyn i achos prawf gael ei ddewis.
Os bydd yr apêl yn llwyddiannus, rhaid i chi ychwanegu manylion yr unigolyn at y cofnodion a'r rhestrau perthnasol.3