| Argraffu'r canllawiau llawn

Archwilio ceisiadau cofrestru, gwrthwynebiadau a cheisiadau am bleidlais absennol

Mae ceisiadau cofrestru (ar wahân i geisiadau a wneir gan y rhai dan 16 mlwydd oed a cheisiadau am gofrestriad dienw) ac unrhyw wrthwynebiadau i geisiadau ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio o’r adeg y cânt eu gwneud hyd nes y gwneir penderfyniad arnynt. 1 Ar ôl hynny, efallai na chaiff dogfennau o’r fath eu harchwilio.

Ni all ceisiadau am bleidleisiau absennol gael eu harchwilio unrhyw bryd.

Nid yw etholwyr a ychwanegir at y gofrestr llywodraeth leol dan brosesau cofrestru awtomatig yn destun archwiliad cyhoeddus na’r cyfnod gwrthwynebu dechreuol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 15 Medi 2026