Darparu'r gofrestr wedi'i marcio a'r rhestrau pleidleiswyr absennol wedi'u marcio

Darparu'r gofrestr wedi'i marcio a'r rhestrau pleidleiswyr absennol wedi'u marcio

Os gwneir cais amdanynt, rhaid darparu rhannau perthnasol o'r copi wedi'i farcio o'r gofrestr etholwyr ac unrhyw hysbysiadau sy'n ei newid, yn ogystal â'r copïau wedi'u marcio o'r rhestr o bleidleiswyr post, y rhestr o ddirprwyon, a'r rhestr o ddirprwyon sy'n pleidleisio drwy'r post, i unigolion penodol, ar ôl iddynt dalu'r ffi ragnodedig.1  

Rhaid i'r cais gael ei wneud yn ysgrifenedig, gan nodi'r canlynol:2  

  • pa rai o'r gofrestr neu'r rhestrau wedi'u marcio (neu'r rhannau perthnasol ohonynt) y gwneir cais amdanynt;
  • p'un a ofynnir am gopïau argraffedig neu gopïau data; 
  • at ba ddiben y caiff y data eu defnyddio a'r rheswm pam na fyddai darparu'r data llawn yn ddigon i fodloni'r diben hwnnw

Caiff cost dogfen wedi'i marcio ei rhagnodi. Y ffi ar gyfer copïau data yw £10 yn ogystal â £1 fesul 1,000 o gofnodion neu ran ohonynt, ac ar gyfer copïau wedi'u hargraffu, y ffi yw £10 yn ogystal â £2 fesul 1,000 o gofnodion neu ran ohonynt.3  

Rhaid i chi ddarparu’r copïau y gwneir cais amdanynt ar yr amod y caiff y ffi berthnasol ei thalu a’ch bod yn fodlon bod angen i’r sawl sy’n gwneud y cais weld y marciau ar y gofrestr neu’r rhestrau wedi’u marcio er mwyn bodloni’r diben dan sylw.4 Pan fyddwch yn darparu’r gofrestr wedi’i marcio, dylech atgoffa’r derbynnydd y dylid dinistrio’r data yn ddiogel pan fydd y diben y darparwyd y gofrestr ar ei gyfer wedi dod i ben. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mai 2021