Cynnal cofrestru etholiadol - Cymru
Archwilio cofrestrau wedi'u marcio, rhestrau pleidleiswyr absennol wedi'u marcio a dogfennaeth arall etholiad
Archwilio cofrestrau wedi'u marcio, rhestrau pleidleiswyr absennol wedi'u marcio a dogfennaeth arall etholiad
Gall unrhyw un archwilio'r gofrestr wedi'i marcio ac unrhyw hysbysiadau sy'n ei newid, yn ogystal â chopïau wedi'u marcio o'r rhestr o bleidleiswyr post, y rhestr o ddirprwyon a'r rhestr o ddirprwyon sy'n pleidleisio drwy'r post, a'r cyfryw ddogfennau eraill sy'n gysylltiedig ag etholiad y mae'n ofynnol i chi eu cadw, ac eithrio papurau pleidleisio, rhestrau rhifau cyfatebol wedi'u cwblhau, tystysgrifau cyflogaeth y rhai ar ddyletswydd ar y diwrnod pleidleisio, a'r rhestrau o bapurau pleidleisio a wrthodwyd o dan y weithdrefn ddilysu.1
Rhaid i unrhyw un sydd am archwilio'r gofrestr wedi'i marcio neu'r rhestr pleidleiswyr absennol wedi'u marcio wneud cais yn ysgrifenedig, gan nodi'r canlynol:2
- pa gofrestr neu ddogfen y mae am ei harchwilio
- a yw am archwilio copi argraffedig neu gopi data (lle y bo'n briodol)
- at ba ddiben y defnyddir unrhyw wybodaeth
- pan fydd y cais yn ymwneud â'r gofrestr wedi'i marcio neu'r rhestrau wedi'u marcio, y rheswm pam na fyddai archwilio'r gofrestr lawn neu'r rhestrau heb eu marcio yn ddigon i fodloni'r diben hwnnw
- pwy fydd yn archwilio'r dogfennau,
- ar ba ddyddiad yr hoffai archwilio'r dogfennau
Gallwch wrthod caniatáu i'r dogfennau hyn gael eu harchwilio os byddwch yn fodlon y gellir bodloni dibenion y sawl sy'n gwneud cais drwy archwilio'r gofrestr lawn. Mewn achos o'r fath, rhaid i chi hysbysu'r sawl sy'n gwneud cais am y penderfyniad hwn a rhoi gwybodaeth iddo am argaeledd y gofrestr lawn i'w harchwilio.3 Fel arall, rhaid sicrhau bod y dogfennau ar gael o fewn 10 diwrnod i gael y cais. Rhaid i chi drefnu iddynt gael eu harchwilio dan oruchwyliaeth.4 Gall yr archwiliad ddigwydd yn unrhyw le a fynnoch.
Gall y rhai sy'n archwilio'r dogfennau wneud copïau o'r cofrestrau a'r rhestrau gan ddefnyddio nodiadau ysgrifenedig yn unig.5
Mae'r un mesurau diogelu yn gymwys i oruchwylio a diogelu'r wybodaeth ag sy'n gymwys i archwilio'r gofrestr lawn.
Mae gan y Gwasanaeth Diogelwch, Pencadlys Cyfathrebu'r Llywodraeth a'r Gwasanaeth Cudd-wybodaeth yr hawl i gael copi am ddim o unrhyw un o'r dogfennau hyn ar gais. Mae gan yr heddlu (gan gynnwys yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol) yr hawl i gael copïau am ddim o unrhyw un o'r dogfennau hyn ar gais os byddant wedi'u harchwilio.6
I gael canllawiau ar fynediad at ddata ID pleidleisiwr a gesglir mewn gorsafoedd pleidleisio gweler ein canllawiau ar fynediad at ddata gorsafoedd pleidleisio.
- 1. Rheoliad 118(1) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 118(2) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheoliad 118(4) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheoliad 118(3) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Rheoliad 118(7) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Rheoliad 118(8) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 ↩ Back to content at footnote 6