Cyfyngiadau ar y defnydd o'r gofrestr lawn

Cyfyngiadau ar y defnydd o'r gofrestr lawn

Mae cyfyngiadau ar ddefnyddio'r wybodaeth yn y gofrestr lawn. 

Mae'r tabl hwn yn dangos sut y gall unigolion neu sefydliadau gwahanol ddefnyddio'r gofrestr. 

Unigolyn/sefydliad Defnydd a ganiateir o'r gofrestr
Gall cynghorydd neu un o gyflogeion y cyngor (ac eithrio cyngor cymuned) sydd â chopi o'r gofrestr lawn, ddarparu copi ohoni, neu ddatgelu neu ddefnyddio gwybodaeth ynddi, at y dibenion canlynol: 1
  • cyflawni un o swyddogaethau statudol y cyngor neu unrhyw awdurdod lleol arall sy'n ymwneud â diogelwch, gorfodi'r gyfraith ac atal troseddau.
  • dibenion ystadegol (heb ddatgelu enw na chyfeiriad unrhyw etholwr, p'un a yw'r etholwr hwnnw yn ymddangos yn y gofrestr olygedig ai peidio)
  • pleidlais leol o dan adran 116 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 
Gall cynghorydd cymuned neu unigolyn a gyflogir gan y cyngor cymuned neu sy'n ei gynorthwyo fel arall sydd â chopi o'r gofrestr lawn ddarparu copi ohoni, neu ddatgelu neu ddefnyddio gwybodaeth ynddi, at y dibenion canlynol:2  
  • canfod a oes gan unigolyn yr hawl i fynychu neu gyfrannu at gyfarfod o'r cyngor cymuned
  • canfod a oes gan unigolyn yr hawl i gymryd camau ar ran y cyngor cymuned 
  • pleidlais leol o dan adran 116 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 
Mae gan gynrychiolwyr etholedig hefyd yr hawl i gael copi o'r gofrestr etholiadol:3
  • at ddibenion etholiadol, ar gyfer yr ardal y maent yn ei chynrychioli
Mae adrannau'r Llywodraeth yn gyfyngedig o ran y ffordd y gallant ddefnyddio'r gofrestr. Ni allant ddarparu na gwerthu copi oni allai'r derbynnydd gael copi am ddim ohoni o dan y rheoliadau.
Dim ond at y dibenion canlynol y gall adrannau'r Llywodraeth ddefnyddio'r gofrestr:4
  • atal a chanfod troseddau a gorfodi cyfraith droseddol (boed yng Nghymru neu yn unrhyw le arall)
  • fetio cyflogeion a'r rhai sy'n gwneud cais am gyflogaeth lle mae'r cyfryw fetio yn ofynnol yn unol ag unrhyw ddeddfiad
  • fetio unrhyw un lle mae'r cyfryw fetio at ddibenion sicrhau diogelwch cenedlaethol, neu
  • darparu a datgelu fel y'u diffinnir gan y rheoliadau
Dim ond at y dibenion canlynol y gall asiantaethau gwirio credyd ddefnyddio'r gofrestr:5  
  • fetio ceisiadau am gredyd neu geisiadau a all arwain at roi credyd neu roi unrhyw warant, indemniad neu sicrwydd mewn perthynas â rhoi credyd
  • bodloni unrhyw rwymedigaethau a geir yn Rheoliadau Gwyngalchu Arian 2007 neu unrhyw reolau a wneir yn unol ag Adran 137A o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000, 
  • cynnal dadansoddiad ystadegol o asesiad risg credyd mewn achos lle na chyfeirir at unrhyw un y mae ei fanylion wedi'u cynnwys yn y gofrestr lawn yn ôl enw neu ensyniad angenrheidiol

Y tu hwnt i'r amgylchiadau cyfyngedig a bennir o dan Cael gafael ar ddata yn ymwneud ag unigolion dan 16 oed, a'u darparu, ni ddylid defnyddio unrhyw wybodaeth am unigolion dan 16 oed mewn unrhyw fersiwn o'r gofrestr a gyhoeddir neu a ddarperir fel arall. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mai 2021