Rhaid i'r gofrestr olygedig fod ar gael i'r cyhoedd ei harchwilio. Yn wahanol i archwiliad o'r gofrestr lawn, nid oes angen goruchwyliaeth. Dylid sicrhau bod y copi ar gael yn eich swyddfa a hefyd drwy unrhyw ffordd briodol arall yn eich barn chi.1
Gwerthu'r gofrestr olygedig
Gellir gwerthu'r gofrestr olygedig i unrhyw un sy'n gofyn amdani ar ôl talu'r ffi ragnodedig. Nodir isod y ffioedd ar gyfer gwerthu'r gofrestr olygedig:2
ar ffurf data, £20 yn ogystal â £1.50 am bob 1,000 o gofnodion (neu'r rhan sy'n weddill o 1,000 o gofnodion) ynddi
ar ffurf argraffedig, £10 yn ogystal â £5 am bob 1,000 o gofnodion (neu'r rhan sy'n weddill o 1,000 o gofnodion) ynddi
Caiff plentyn dan 16 oed ei hepgor yn awtomatig o'r gofrestr olygedig. Ni ddylid cynnwys manylion unrhyw blentyn dan 16 oed mewn unrhyw fersiwn o'r gofrestr gyhoeddedig, gan gynnwys y gofrestr olygedig.