Diogelwch data a anfonir

Diogelwch data a anfonir

O gofio bod y gofrestr yn cynnwys data personol, dylid bod yn ofalus iawn wrth anfon y data hyn at unrhyw un o’r derbynyddion cymwys. 

Er y dylech geisio eich cyngor eich hun ynghylch y ffordd fwyaf priodol a diogel o ddarparu'r gofrestr i dderbynyddion, dylai mesurau diogelwch cyffredinol gynnwys y canlynol o leiaf:

  • arbed copïau electronig o’r gofrestr, a anfonir naill ai drwy e-bost neu a gaiff eu harbed ar ddisg, mewn fformat a ddiogelir gan gyfrinair neu wedi'i amgryptio, gan anfon y cyfrinair perthnasol neu'r allwedd amgryptio mewn gohebiaeth ar wahân
  • defnyddio gwasanaethau dosbarthu diogel a ddarperir gan y Post Brenhinol a darparwyr gwasanaethau dosbarthu post eraill 
  • cynnal cofnodion o’r hyn a anfonwyd, manylion y derbynnydd, a sut y caiff ei anfon

Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn rhoi cyngor ar  amgryptio, sydd ar gael yn https://ico.org.uk

Os byddwch wedi defnyddio gwasanaeth amgryptio data, bydd angen i chi sicrhau y gall unrhyw dderbynnydd gael gafael ar y data. 

Ceir rhagor o wybodaeth am ystyriaethau diogelu data i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn ein canllawiau Beth yw'r ystyriaethau diogelu data i Swyddog Cofrestru Etholiadol?

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mai 2021