Cael gafael ar ddata yn ymwneud ag unigolion dan 16 oed, a'u darparu

Cael gafael ar ddata yn ymwneud ag unigolion dan 16 oed, a'u darparu

Dim ond Swyddogion Cofrestru Etholiadol a'u staff a all gael gafael ar ddata yn ymwneud ag unigolion dan 16 oed, neu eu defnyddio. Ni ddylai unrhyw fersiwn o'r gofrestr nac unrhyw restrau pleidleisio absennol a gyhoeddir neu a ddarperir fel arall, gynnwys y data hynny. 

Fodd bynnag, gellir datgelu'r data:1  

  • i'r unigolyn ei hun (gan gynnwys datgelu'r data i ddangos ei fod yn rhoddwr a ganiateir ac, os felly, rhaid i'r data gael eu datgelu) neu unigolyn a benodwyd ganddo yn ddirprwy i bleidleisio ar ei ran
  • at ddiben ymchwiliad troseddol neu achos troseddol yn ymwneud â chofrestru etholwyr neu gynnal etholiadau
  • mewn deunydd cyfathrebu a anfonir at unigolyn neu aelwyd fel rhan o'r canfasiad blynyddol, ond ni ddylid rhagargraffu dyddiad geni unrhyw unigolyn dan 16 oed 
  • i Swyddogion Cofrestru Etholiadol a Swyddogion Canlyniadau mewn perthynas â chofrestr etholwyr neu gynnal etholiadau

Yr unig eithriad arall yw y gellir, cyn etholiad Senedd Cymru, datgelu'r wybodaeth am yr unigolion hynny dan 16 oed a fydd yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiad (h.y. a fydd yn cyrraedd 16 oed cyn neu ar y diwrnod pleidleisio) at ddiben yr etholiad neu mewn perthynas ag ef, yn y gofrestr etholiadol, rhestr y pleidleiswyr post, y rhestr o ddirprwyon a'r rhestr o ddirprwyon sy'n pleidleisio drwy'r post, a gyflenwir i'r canlynol:2  

  • ymgeiswyr ar gyfer etholiadau Senedd Cymru neu etholiadau llywodraeth leol at ddibenion etholiadol neu i gydymffurfio â'r rheolau o ran rhoddion gwleidyddol
  • y Swyddog Canlyniadau at ddibenion etholiadau Senedd Cymru neu etholiadau llywodraeth leol
  • y Comisiwn Etholiadol. Yn yr achos hwn, dim ond mewn perthynas â'i swyddogaethau yn ymwneud â rheoli rhoddion a chyhoeddi gwybodaeth am roddwyr y caiff y Comisiwn ddefnyddio'r wybodaeth, ond o ran yr olaf o'r rhain, ni chaiff gyhoeddi enwau na chyfeiriadau unigolion dan 16 oed

Ni ddylai'r wybodaeth a roddir cyn etholiad gynnwys dyddiadau geni nac unrhyw beth arall a fyddai'n nodi bod pleidleisiwr dan 16 oed. 

Ni ddylid rhoi unrhyw wybodaeth am unigolion dan 16 oed i unrhyw unigolyn na chorff arall.

Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Gorffennaf 2022