Cael pobl eraill i rannu’r neges (cyfryngau a enillwyd)
Drwy weithio’n weithredol gyda’r cyfryngau, mae gennych ragor o ddylanwad ar fathau’r negeseuon y maent yn eu cyhoeddi.
Bydd y negeseuon y mae pobl yn eu clywed yn y wasg a’r newyddion yn effeithio ar ba mor debygol ydynt i gofrestru. Mae gweithgarwch cysylltiadau’r cyfryngau yn darparu cyfle i ddangos eich neges ar yr agenda newyddion a chodi proffil eich gwaith.
Efallai na fydd modd i chi reoli barn y cyhoedd, ond gallwch ddarparu negeseuon sy’n fwy tebygol o dawelu meddwl pobl a lleihau sylw negyddol a allai atal pobl rhag cofrestru.
Gall gweithgareddau awgrymedig gynnwys:
cyhoeddi datganiadau i’r wasg cyn digwyddiadau allweddol, megis ar ddechrau’r canfasiad blynyddol ac yn ystod unrhyw gyfnodau hysbysu ar gyfer cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig