| Argraffu'r canllawiau llawn

Anfon hysbysiadau at etholwyr tramor i'w hatgoffa i ddiweddaru

Er mwyn parhau ar y gofrestr, rhaid i etholwr tramor gwblhau datganiad adnewyddu cyn i'w gofrestriad presennol ddod i ben. Mae'r cyfnod adnewyddu ar agor am 6 mis, rhwng 2 Mai a 1 Tachwedd.

Rhaid i chi atgoffa etholwyr tramor o'r angen i wneud datganiad adnewyddu1  drwy anfon hysbysiad atynt yn ystod y cyfnod perthnasol. Mae'r cyfnod perthnasol yn dechrau ar y 1 Gorffennaf yn union cyn y trydydd 1 Tachwedd y daw ei gofrestriad i ben ac mae'n gorffen ar y 1 Tachwedd hwnnw.2

Mae gennych ryddid o ran sut rydych chi'n anfon nodyn atgoffa ynghylch adnewyddu. Gallech ddefnyddio'r post, e-bost, neu gyfathrebiadau electronig eraill. Dylai'r nodyn atgoffa esbonio gofynion datganiad adnewyddu. Wrth anfon y nodyn atgoffa drwy e-bost neu fath arall o gyfathrebiad electronig, dylid darparu dolen i'r gwasanaeth adnewyddu ar-lein. Wrth anfon drwy'r post, dylid cynnwys datganiad papur, a fydd hefyd yn cynnwys dolen i'r etholwr adnewyddu ar-lein.

Mae'n rhaid i chi anfon hysbysiad atgoffa arall os na fydd yr etholwr wedi ymateb i'r un cyntaf ar ôl cyfnod rhesymol o amser.3  Er na chaiff cyfnod rhesymol o amser ei ddiffinio mewn deddfwriaeth, yn ein barn ni, ni ddylai fod yn fwy na 28 diwrnod a gall fod yn fyrrach mewn rhai amgylchiadau (er enghraifft, os caiff etholiad ei gynnal). Bydd y cyfnod adnewyddu llawn yn gorgyffwrdd â phrosesau canfasio blynyddol, felly dylech gynllunio pryd rydych yn bwriadu anfon eich hysbysiadau atgoffa ochr yn ochr â gweithgarwch canfasio  . Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar gynllunio ar gyfer y canfasiad blynyddol.
 
Nid yw'n ofynnol i chi anfon hysbysiad atgoffa os ydych wedi cael datganiad adnewyddu yn barod4  neu os ydych wedi cael gwybodaeth nad oes hawl gan yr unigolyn i wneud datganiad adnewyddu mwyach.5  

Nid yw'n ofynnol i chi hysbysu etholwr tramor ei fod wedi cael ei dynnu oddi ar y gofrestr os na fydd yn adnewyddu ei ddatganiad. 

Anfon hysbysiadau atgoffa at etholwyr dienw sydd wedi'u lleoli dramor  

Daw cofrestriad etholwr dienw sydd wedi'i leoli dramor i ben ar y dyddiad y daw ei hawl i aros ar y gofrestr fel etholwr dienw i ben.6  

Os bydd etholwr dienw sydd wedi'i leoli7  dramor am aros ar y gofrestr fel etholwr dienw, rhaid iddo gwblhau cais newydd am gofnod dienw ar y gofrestr h.y., daw ei gofrestriad cyfan i ben os nad yw wedi gwneud cais arall am gofrestriad yn llwyddiannus. 

Rhaid i chi anfon hysbysiad atgoffa at etholwyr dienw sydd wedi'u lleoli dramor yn ystod y cyfnod atgoffa sy'n dechrau 3 mis cyn y dyddiad y daw eu hawl i aros ar y gofrestr fel etholwyr dienw i ben ac yn gorffen 2 fis cyn y dyddiad hwnnw. 

Er enghraifft, os daw hawl unigolyn i gael ei gofrestru fel etholwr dienw i ben ar 31 Awst, yna bydd y cyfnod atgoffa yn dechrau ar 31 Mai ac yn gorffen ar 30 Mehefin.  

Rhaid i'r hysbysiad atgoffa esbonio'r canlynol:

  • os hoffai unigolyn aros ar y gofrestr fel etholwr dienw sydd wedi'i leoli dramor, rhaid iddo wneud cais newydd i gofrestru8  
  • os hoffai unigolyn aros ar y gofrestr fel etholwr tramor heb gofnod dienw, rhaid iddo wneud cais newydd i gofrestru a datganiad etholwr tramor newydd9  

Nid yw'n ofynnol i chi anfon hysbysiad atgoffa os ydych eisoes wedi cael cais newydd am gofnod dienw ar y gofrestr.10   

Gellir anfon hysbysiad atgoffa i'r etholwr drwy'r post, drwy e-bost neu drwy ddulliau e-gyfathrebu eraill.11  

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 10 Rhagfyr 2025