Cynnal cofrestru etholiadol - Cymru

A yw'r ardystiwr yn bodloni'r gofynion i fod yn ardystiwr cymwys?

A yw'r ardystiwr yn bodloni'r gofynion i fod yn ardystiwr cymwys?

Rhaid i bob ardystiwr cymwys: 

  • gadarnhau nad yw'n briod, partner sifil, rhiant, tad-cu/mam-gu, brawd, chwaer, plentyn nac ŵyr/wyres i'r ymgeisydd 1
  • cadarnhau nad yw eisoes wedi llofnodi ardystiadau hunaniaeth ar gyfer dau ymgeisydd arall naill ai ers i'r gofrestr ddiwygiedig gael ei chyhoeddi ddiwethaf, neu ers i'r ardystiwr gael ei ychwanegu at y gofrestr gyntaf, pa un bynnag sydd fwyaf diweddar 2
  • bod yn 18 oed neu drosodd 3
  • bod wedi cofrestru fel etholwr 4

Pan fydd ardystiwr yn etholwr domestig, rhaid iddo fod:

  • yn berson ac iddo enw da yn y gymuned  5

Dylech gynghori'r ymgeisydd na chaniateir i ardystiwr godi tâl am ddarparu ardystiad.

Enw da

Nid oes diffiniad manwl gywir o enw da; fodd bynnag, at ddibenion ardystiad, dylech ei ystyried i olygu rhywun sydd â chymwysterau y gellir eu gwirio ac a fyddai'n dioddef niwed proffesiynol neu enw da pe baent yn darparu ardystiad ffug. Nid yw’r rhestr yn y tabl isod yn derfynol ond ei bwriad yw dangos pa broffesiynau y gellid eu disgrifio fel rhai o enw da:
 

Enghreifftiau o broffesiynau y gellid eu disgrifio fel rhai o statws da

aelod, cydymaith neu gymrawd o gorff proffesiynol

asiant sicrwydd cwmni cydnabyddedig

asiant teithio (cymwys)

asiant yswiriant (llawn amser) cwmni cydnabyddedig

athro/athrawes, darlithydd

bargyfreithiwr

cadeirydd/cyfarwyddwr cwmni cyfyngedig

ciropodydd

clerc erthyglog cwmni cyfyngedig

comisiynydd llwon

cyfarwyddwr/rheolwr elusen sydd wedi'i chofrestru ar gyfer TAW

cyfarwyddwr/rheolwr/swyddog personél cwmni sydd wedi'i gofrestru ar gyfer TAW

cyfreithiwr

cyfrifydd

cyfryngwr gwasanaethau ariannol (e.e. brocer stoc neu frocer yswiriant)

cynrychiolydd a etholwyd yn gyhoeddus (AS, Cynghorydd ac ati)

deintydd

fferyllydd

ffotograffydd (proffesiynol)

gwas sifil (parhaol)

gweinidog crefydd gydnabyddedig (gan gynnwys Gwyddoniaeth Gristnogol)

gweithiwr cymdeithasol

gweithiwr meddygol proffesiynol

llywydd/ysgrifennydd sefydliad cydnabyddedig

newyddiadurwr

nyrs (RGN ac RMN)

optegydd

paragyfreithiwr (paragyfreithiwr ardystiedig, paragyfreithiwr cymwys neu aelod cyswllt o Sefydliad y Paragyfreithwyr)

peilot cwmni hedfan

peiriannydd (gyda chymwysterau proffesiynol)

person ag anrhydedd (OBE neu MBE, er enghraifft)

prisiwr neu arwerthwr (cymrodyr ac aelodau cyswllt o’r gymdeithas gorfforedig)

rheolwr/swyddog personél (cwmni cyfyngedig)

swyddog banc/cymdeithas adeiladu

swyddog Byddin yr Iachawdwriaeth

swyddog heddlu

swyddog llywodraeth leol

swyddog Swyddfa'r Post

swyddog undeb llafur

swyddog y gwasanaeth tân

swyddog y lluoedd arfog

Swyddog y Llynges Fasnachol

Swyddogion Gwarantau a Phrif Is-swyddogion

syrfëwr

trefnydd angladdau

trwyddedai tafarn

Ynad Heddwch


ysgrifennydd cyfreithiol (cydaelod neu aelod cyswllt o Sefydliad yr Ysgrifenyddion Cyfreithiol a Chynorthwywyr Personol)


Mae'n bwysig nodi nad yw person di-waith/sydd wedi ymddeol sydd ag enw da yn y gymuned yn cael ei atal rhag ardystio cais.

Rhaid i chi farnu pob ardystiad yn ôl ei rinweddau unigol yn hytrach na chymhwyso polisi cyffredinol.

A yw'r ardystiwr wedi'i gofrestru i bleidleisio?

Rhaid i'r sawl sy'n ardystio pwy yw etholwr fod wedi'i gofrestru i bleidleisio, naill ai fel etholwr domestig neu fel etholwr tramor. Os yw cyfeiriad cymwys neu gyfeiriad cofrestru'r ardystiwr yn yr un ardal awdurdod lleol â'r ymgeisydd, dylech edrych ar eich cofrestr etholiadol i gadarnhau bod yr ardystiwr yn bodloni'r amod hwn.

Os nad yw cyfeiriad cymwys neu gyfeiriad cofrestru'r ardystiwr yn yr un ardal awdurdod lleol â'r ymgeisydd, dylech gysylltu â Swyddog Cofrestru Etholiadol yr ardystiwr i gadarnhau a yw'r ardystiwr yn bodloni'r amodau hyn.

A yw'r ardystiwr eisoes wedi darparu ardystiadau hunaniaeth ar gyfer dau unigolyn o fewn cyfnod penodedig?

Ni chaniateir i ardystwyr lofnodi ardystiad hunaniaeth ar gyfer mwy na dau unigolyn mewn unrhyw flwyddyn etholiadol (o 1 Rhagfyr tan 30 Tachwedd fel arfer), neu ers i'w cofnod gael ei ychwanegu at y gofrestr yn yr ardal awdurdod lleol honno, pa un bynnag yw'r cyfnod byrraf. 6  Rhaid i chi fod yn fodlon nad yw ardystiwr wedi mynd dros y terfyn. 7

Os bydd ardystiwr wedi cyrraedd y terfyn, dylech wrthod yr ardystiad am y rheswm hwn. Ni fydd hyn yn atal yr ymgeisydd rhag ceisio ardystiad arall gan etholwr arall. Dylech brosesu ardystiadau yn y drefn y dônt i law.

Os bydd ardystiwr yn bodloni'r holl amodau, dylid derbyn yr ardystiad, a dylai Swyddog Cofrestru Etholiadol yr ardystiwr nodi hyn ar gofnod yr etholwr. Bydd hyn wedyn yn cyfrif tuag at y cyfanswm o ardystiadau hunaniaeth y caiff yr etholwr hwn eu gwneud.

Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Rhagfyr 2023