Ceisiadau am bleidleisiau absennol a wneir y tu allan i gylch adnewyddu etholwyr tramor
Pan fo etholwr tramor yn gwneud cais am bleidlais bost ar ôl i ddarpariaethau 31 Hydref 2023 gael eu gwneud ond cyn i'r newidiadau i etholwyr tramor ddod i rym, yna dim ond am y cyfnod sy'n weddill o gofrestriad 12 mis gwreiddiol etholwr tramor y gellir caniatáu'r bleidlais bost, a gyfrifir o'r dyddiad y cafodd ei ychwanegu at y gofrestr. Mae'r tabl hwn yn cynnwys rhai enghreifftiau wedi'u cyfrifo:
Dyddiad ychwanegu at y gofrestr etholiadol
Dyddiad y cais am bleidlais bost
Dyddiad y daw'r datganiad tramor i ben
Dyddiad y daw'r trefniant pleidleisio drwy'r post i ben
1 Mehefin 2023
15 Tachwedd 2023
1 Mehefin 2024
1 Mehefin 2024
1 Gorffennaf 2023
12 Chwefror 2024
1 Gorffennaf 2024
1 Gorffennaf 2024
1 Mawrth 2024
1 Awst 2024
1 Tachwedd 2026
1 Tachwedd 2026
Os na ddaw datganiad presennol etholwr tramor i ben tan ar ôl 31 Hydref 2023 ond bod gan yr etholwr drefniant pleidleisio drwy ddirprwy a wnaed cyn y dyddiad hwn, daw trefniant pleidleisio drwy ddirprwy'r etholwr i ben ar 31 Ionawr 2024, nid ar yr un adeg â'i ddatganiad etholwr tramor presennol. Ar y cam hwn, mae'n rhaid diweddaru'r llofnod a bydd y trefniadau ar gyfer adnewyddu ei ddatganiad etholwr tramor a'r trefniadau ar gyfer adnewyddu ei drefniant pleidleisio drwy ddirprwy yn gyson â'i gilydd ar gylch tair blynedd.
Fodd bynnag, pan fo etholwr tramor ar y cylch datganiad 12 mis presennol yn cyflwyno cais newydd am bleidlais drwy ddirprwy o fewn tri mis i'r dyddiad y daw ei ddatganiad i ben (ac wedyn yn adnewyddu ei ddatganiad fel etholwr tramor), ni fyddai'r trefniant pleidleisio drwy ddirprwy yn dod i ben ar yr un pryd â'i ddatganiad presennol ond yn hytrach byddai'n parhau hyd nes daw ei ddatganiad newydd i ben h.y., y trydydd 1 Tachwedd ar ôl dyddiad y datganiad tramor.
Bydd yn ofynnol i bob etholwr tramor sy'n gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy ar ôl 31 Ionawr 2024 ddiweddaru ei lofnod pan ddaw ei ddatganiad tramor i ben, p'un a yw ei ddatganiad o dan y cylch 12 mis neu'r cylch 3 blynedd. Mae'r tabl hwn yn cynnwys rhai enghreifftiau wedi'u cyfrifo:
Dyddiad ychwanegu at y gofrestr etholiadol
Dyddiad y cais am bleidlais bost
Dyddiad y daw'r datganiad tramor i ben
Dyddiad y daw'r trefniant pleidleisio drwy'r post i ben
1 Gorffennaf 2023
10 Gorffennaf 2023
1 Gorffennaf 2024
Byddai angen diweddaru'r llofnod cyn 31 Ionawr 2024; os gwneir hyn, byddai'r trefniant pleidleisio drwy ddirprwy yn parhau tan 1 Gorffennaf 2024
1 Gorffennaf 2023
1 Chwefror 2024
1 Gorffennaf 2024
1 Gorffennaf 2024
1 Chwefror 2023
20 Rhagfyr 2023
1 Chwefror 2024
1 Tachwedd 2026
Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar y broses adnewyddu pleidleisiau absennol.