Pa gamau y dylwn eu cymryd pan fydd yr adolygiad wedi'i gwblhau?
Ar ôl cwblhau eich adolygiad, rhaid i chi naill ai gadarnhau'r penderfyniad i osod cosb sifil neu ganslo'r gosb sifil.1
Yna, rhaid i chi hysbysu'r unigolyn, yn ysgrifenedig, am ganlyniad yr adolygiad.2
Os byddwch yn cadarnhau'r penderfyniad i osod cosb sifil, rhaid i'r hysbysiad sy'n cadarnhau canlyniad yr adolygiad nodi'r canlynol:3
y gall apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf a sut i wneud apêl o'r fath,