Canslo hysbysiad cosb sifil

Rhaid i chi ganslo hysbysiad o gosb sifil os bydd yr unigolyn yn gwneud cais i gofrestru cyn yr amser ar gyfer talu'r gosb sifil1 ,  neu o ganlyniad i ohebiaeth uniongyrchol gan yr unigolyn neu wybodaeth arall:2  

  • rydych yn fodloon nad yw'r unigolyn yn gymwys i gael ei gofrestru yn y cyfeiriad y gwnaethoch roi'r gwahoddiadau i gofrestru
  • rydych yn fodlon bod yr unigolyn wedi'i gofrestru mewn cyfeiriad gwahanol
  • rydych yn canfod nad oedd unrhyw un o'r gofynion ar gyfer anfon hysbysiad sy'n ei gwneud yn ofynnol i unigolyn gofrestru wedi'u bodloni

Mae gennych y disgresiwn i ganslo hysbysiad o gosb sifil os byddwch o'r farn ei bod yn briodol gwneud hynny.3

Er enghraifft:
Mae'n bosibl y bydd unigolyn wedi bod i ffwrdd am y mwyafrif helaeth o'r cyfnod rhwng y gofyniad i gofrestru a'r hysbysiad o gosb sifil. Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, gall fod yn briodol canslo'r gosb sifil a phennu dyddiad cau newydd ar gyfer derbyn cais.

Efallai na fydd unigolyn wedi ymateb i'ch gwahoddiadau a'r gofyniad i gofrestru ar sail anabledd neu anallu i ddarllen neu ysgrifennu. Eto, mewn amgylchiadau o'r fath, dylech ystyried canslo'r gosb sifil a chynnig unrhyw gymorth y gall fod ei angen i alluogi'r unigolyn i wneud cais.

Efallai na fydd unigolyn wedi ymateb i'ch gwahoddiad i gofrestru am fod ganddo bryderon y byddai rhoi gwybodaeth bersonol i chi yn peryglu ei ddiogelwch. Mewn amgylchiadau o'r fath, dylech asesu a fyddai'n gymwys i gofrestru fel etholwr dienw a, lle y bo'n briodol, ganslo'r gosb sifil ac esbonio'r broses gofrestru ddienw iddo.

   
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mai 2021