Beth yw'r amserlen ar gyfer cynnal yr adolygiad hwn?

Os bydd unigolyn yn gwneud cais am adolygiad o fewn y cyfnod o 14 diwrnod calendr o ddyddiad yr hysbysiad, rhaid i chi gynnal adolygiad o'ch penderfyniad i osod cosb sifil. 

Mae'r rhwymedigaeth hon yn bodoli ni waeth a fydd yr unigolyn wedi cyflwyno unrhyw sylwadau neu dystiolaeth i chi. 

Ni ddylai eich adolygiad ddechrau cyn1

  • diwedd y cyfnod o 14 diwrnod calendr ar ôl dyddiad yr hysbysiad o gydnabyddiaeth, neu 
  • derbyn unrhyw sylwadau neu dystiolaeth, pa un bynnag fydd gynharaf

Mae hyn yn golygu, os byddwch yn cael unrhyw sylwadau neu dystiolaeth cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod, y gallwch ddechrau eich adolygiad bryd hynny. Fel arall, rhaid i chi aros tan ddiwedd y cyfnod o 14 diwrnod cyn y gallwch ddechrau eich proses adolygu. 

Ystyried sylwadau neu dystiolaeth

Os cewch unrhyw sylwadau neu dystiolaeth, rhaid i chi eu hystyried.

Gall fod amgylchiadau pan fyddwch yn cael sylwadau neu dystiolaeth ar ôl i chi ddechrau'r adolygiad, neu ar ôl i chi ei gwblhau ond cyn i'r gosb gael ei thalu. Mewn achosion o'r fath, dylech ystyried y sylwadau a'r dystiolaeth o hyd ac adolygu eich sail dros roi'r hysbysiad o gosb sifil gan ystyried y rhain.

Yn absenoldeb unrhyw sylwadau neu dystiolaeth, dylech gadarnhau a oes unrhyw sail dros ganslo'r hysbysiad o gosb sifil. 

   
   
 

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mai 2021