Cyfrifo dyddiadau cau ar gyfer diweddaru pleidleisiau absennol
Bydd pleidleiswyr absennol yn colli eu hawl i bleidleisio drwy'r post yn etholiadau Senedd Cymru ac etholiadau llywodraeth leol neu drwy ddirprwy ym mhob etholiad os na cheir ymateb o fewn chwe wythnos i anfon yr hysbysiad gwreiddiol.1
Cyfrifir y cyfnod o chwe wythnos o'r dyddiad yr anfonir yr hysbysiad at bleidleiswyr absennol. Dylech felly roi'r dyddiad rydych yn disgwyl anfon yr hysbysiad arno.
Byddai'r hawl yn dod i ben ar ddiwrnod olaf y cyfnod o chwe wythnos ar ôl y dyddiad yr anfonir yr hysbysiad. Os bydd diwedd y cyfnod o chwe wythnos yn syrthio ar ddiwrnod nad yw'n ddiwrnod gwaith, caiff y dyddiad cau ei estyn i'r diwrnod gwaith nesaf.
Ar ôl tair wythnos o ddyddiad yr hysbysiad gwreiddiol, os na cheir ymateb, bydd angen anfon hysbysiad atgoffa at y pleidleisiwr.2
Yn yr achos hwn, mae'r tair wythnos yn gynhwysol, h.y. mae gan bleidleiswyr dair wythnos lawn i gwblhau'r hysbysiad ac iddo gyrraedd swyddfa'r Swyddog Cofrestru Etholiadol cyn y dylid anfon nodyn atgoffa