Cynnwys yr hysbysiad diweddaru pleidlais absennol

Dylech gadw cofnod o enw pob unigolyn rydych wedi anfon hysbysiad ato, y cyfeiriad y gwnaethoch anfon yr hysbysiad ato, a dyddiad yr hysbysiad, fel y gallwch gyfrifo pryd y bydd y pleidleisiwr absennol yn colli ei hawl i bleidleisio drwy'r post yn etholiadau Senedd Cymru ac etholiadau llywodraeth leol neu drwy ddirprwy ym mhob etholiad os na fydd wedi darparu llofnod newydd.

Rhaid i'r hysbysiad cychwynnol wneud y canlynol:

  • gofyn i'r pleidleisiwr absennol ddarparu enghraifft o'i lofnod 
  • esbonio y bydd ei bleidlais absennol yn cael ei chanslo os na dderbynnir y llofnod newydd o fewn chwe wythnos i ddyddiad yr hysbysiad1    
  • rhoi gwybod iddo ar ba ddyddiad na fyddai'n gymwys i bleidleisio drwy'r post mwyach yn etholiadau Senedd Cymru ac etholiadau llywodraeth leol neu drwy ddirprwy ym mhob etholiad

Dylech hefyd gynnwys gwybodaeth i esbonio'r canlynol:

  • y mathau o etholiadau na fyddai'r unigolyn yn gallu pleidleisio drwy'r post/drwy ddirprwy ynddynt mwyach os na fydd yn darparu'r llofnod gofynnol 
  • nad yw canslo'r bleidlais absennol am fethu â darparu llofnod newydd, neu wrthod gwneud hynny, yn atal yr etholwr rhag gwneud cais arall am bleidlais absennol 
  • sut y caiff y llofnod a'r dyddiad geni y gofynnir amdanynt eu defnyddio er mwyn helpu i atal camddefnydd 
  • o dan ba amgylchiadau y gellir hepgor y gofyniad i ddarparu llofnod 
  • y dyddiad cau i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol dderbyn y llofnod (h.y. heb fod yn hwyrach na chwe wythnos o ddyddiad yr hysbysiad)

Pa wybodaeth nad yw wedi'i chynnwys ar hysbysiadau diweddaru pleidleisiau absennol? 

Nid oes darpariaeth yn y gyfraith i ddyddiad geni'r etholwr gael ei ragargraffu ar yr hysbysiad diweddaru. Nid oes angen i bleidleiswyr post presennol yn etholiadau Senedd Cymru ac etholiadau llywodraeth leol a phleidleiswyr sy'n pleidleisio drwy ddirprwy mewn pob etholiad ddarparu eu dyddiad geni eto er mwyn i'w pleidlais absennol barhau. 

Ble dylid anfon yr hysbysiad diweddaru pleidlais absennol? 

Mae'n rhaid i chi anfon yr hysbysiad i gyfeiriad cyfredol neu gyfeiriad hysbys diwethaf y pleidleisiwr absennol.2    

Mae'n rhaid i chi gynnwys amlen ymateb ragdaledig barod gyda phob hysbysiad y byddwch yn ei anfon at bleidleisiwr absennol yn y DU.3    

Mae'n rhaid i hysbysiadau a anfonir at bleidleiswyr absennol sydd â chyfeiriadau nad ydynt yn y DU gynnwys amlen ymateb barod hefyd, ond nid oes rhaid iddi fod yn un rhagdaledig.4   

Hysbysiadau atgoffa

Bydd angen i chi sganio hysbysiadau a gaiff eu dychwelyd, neu eu cofnodi mewn ffordd arall, fel y gallwch lunio rhestr gywir o'r rhai y mae angen anfon hysbysiad atgoffa atynt.

Os na fydd pleidleisiwr absennol wedi ymateb o fewn tair wythnos i ddyddiad yr hysbysiad gwreiddiol, ac nad yw'r bleidlais absennol wedi cael ei chanslo gan y pleidleisiwr yn y cyfamser, rhaid i chi anfon hysbysiad atgoffa cyn gynted ag y bo'n ymarferol.5   

Copi o gynnwys yr hysbysiad gwreiddiol yw'r hysbysiad atgoffa.

Templedi

Rydym wedi llunio llythyr enghreifftiol i ofyn am ddynodyddion pleidleisiwr post a llythyr enghreifftiol i ofyn am ddynodyddion pleidleisiwr sy'n pleidleisio drwy ddirprwy a all fod yn ddefnyddiol i chi. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 10 Rhagfyr 2024