Tynnu pleidleisiwr absennol o'r cofnodion a'r rhestrau pleidleisio absennol perthnasol os na dderbynnir llofnod newydd

Os na fyddwch wedi cael llofnod newydd cyn diwedd y cyfnod o chwe wythnos ar ôl dyddiad yr hysbysiad gwreiddiol, rhaid i chi dynnu cofnod y bleidlais drwy ddirprwy ar gyfer pob etholiad neu gofnod y bleidlais bost ar gyfer etholiadau Senedd Cymru ac etholiadau llywodraeth leol o'r cofnodion pleidleisio absennol perthnasol a'r rhestrau perthnasol (y rhestr pleidleiswyr post, y rhestr dirprwyon neu'r rhestr dirprwyon sy'n pleidleisio drwy'r post) ar unwaith.1  Rhaid i chi hefyd dynnu cofnod yr unigolyn hwnnw o'r cofnod perthnasol o geisiadau am bleidlais absennol a ganiatawyd.

Dylai'r cofnodion a'r rhestrau gael eu diweddaru'r diwrnod ar ôl y dyddiad cau. Os bydd y dyddiad cau'n syrthio ar ddiwrnod nad yw'n ddiwrnod gwaith, caiff ei estyn i'r diwrnod gwaith nesaf.

Fodd bynnag, mae'n rhaid i chi gadw llofnod a dyddiad geni'r etholwr a ddarparwyd yn flaenorol ar y cofnod o ddynodyddion personol am 12 mis o'r dyddiad y cafodd enw'r etholwr ei dynnu o'r cofnod o geisiadau a ganiatawyd.2  

Rhaid i chi roi gwybod i'r etholwr yn ysgrifenedig eich bod wedi diddymu ei drefniant pleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer pob etholiad neu'i drefniant pleidleisio drwy'r post ar gyfer etholiadau Senedd Cymru ac etholiadau llywodraeth leol. Rhaid i'r hysbysiad wneud y canlynol:3    

  • esbonio bod pleidlais absennol yr unigolyn wedi cael ei diddymu am ei fod wedi methu â darparu llofnod newydd, ac os yw'n dymuno pleidleisio yn etholiadau Senedd Cymru ac etholiadau llywodraeth leol, dim ond mewn gorsaf bleidleisio y gall wneud hynny bellach 
  • rhoi gwybod iddo ble mae ei orsaf bleidleisio
  • ei atgoffa y gall wneud cais newydd am bleidlais absennol, y mae'n rhaid iddo gynnwys ei ddynodyddion

Dylech gynnwys ffurflen gais newydd am bleidlais absennol gyda'r hysbysiad diddymu. Nid oes darpariaeth i ragargraffu'r dyddiad geni sydd eisoes gennych ar gyfer yr etholwr ar y ffurflen gais newydd.

Os caiff enw dirprwy sy'n pleidleisio drwy'r post ei dynnu o'r cofnod a'r rhestr dirprwyon sy'n pleidleisio drwy'r post, mae'n rhaid i chi ysgrifennu at yr etholwr a benododd y dirprwy hefyd ac esbonio er bod y penodiad dirprwy'n weithredol o hyd (ar yr amod nad yw'r etholwr wedi colli ei hawl i bleidleisio drwy ddirprwy hefyd), mae'n rhaid i'w ddirprwy fynd i orsaf bleidleisio'r etholwr i bleidleisio ar ei ran bellach, neu wneud cais arall am bleidlais drwy’r post.4    

Dylech hefyd ysgrifennu at unrhyw ddirprwy neu ddirprwy sy'n pleidleisio drwy'r post os bydd yr etholwr wedi methu ag ymateb i'r hysbysiadau er mwyn rhoi gwybod iddo fod ei benodiad dirprwy neu ddirprwy sy'n pleidleisio drwy'r post wedi cael ei ganslo.

Rydym wedi llunio llythyr canslo (oherwydd methiant i ddarparu llofnod newydd) enghreifftiol a all fod yn ddefnyddiol i chi.

Llythyr canslo (oherwydd methiant i ddarparu llofnod newydd)

 
Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Medi 2024