Mae'n debygol mai paru data eich hun yw'r prif ddull paru data a ddefnyddir at ddibenion dilysu.
Mae'n golygu edrych ar gofnodion o ffynhonnell data lleol a'u cymharu â'r gofrestr etholwyr. Gall hyn arwain at gostau o ran adnoddau staff a'r amser y mae'n ei gymryd i ymdrin â llawer iawn o ddata.
Fodd bynnag, mae paru data eich hun yn eich galluogi i ddehongli data cymhleth a llunio barn arnynt, er enghraifft, nodiadau ysgrifenedig sy'n gysylltiedig â chofnod treth gyngor, a all olygu y byddwch yn cael canlyniad mwy cywir.
Hefyd, byddai paru data eich hun yn addas ar gyfer ymdrin â ffynonellau data lleol ar raddfa fach, fel y rhestrau o bobl a fu farw'n ddiweddar a ddarperir gan Gofrestrwyr.
Awtomataidd
Mae paru data awtomataidd yn golygu defnyddio rhaglen gyfrifiadur neu algorithm i baru dwy set o ddata neu fwy, er enghraifft y ffynhonnell data lleol a rhestr o geisiadau, yn erbyn ei gilydd i lunio rhestr o gofnodion sy'n cyfateb a chofnodion nad ydynt yn cyfateb. Mae'r dull paru hwn yn addas ar gyfer paru llawer iawn o gofnodion.
Gall fod yn ddefnyddiol at ddibenion dilysu os bydd nifer o geisiadau i'w dilysu ar yr un pryd, er enghraifft yn ystod y canfasiad neu gyfnod cyn etholiad pan ddaw llawer iawn o geisiadau i law.
Nid yw'r dull paru hwn yn golygu bod angen i rywun edrych ar bob cofnod, ond dylech sicrhau y caiff meddalwedd a/neu algorithmau paru eu profi'n drylwyr cyn cael eu defnyddio.
Dylech ystyried i ba raddau y gall eich awdurdod lleol wneud y math hwn o waith yn barod, er enghraifft, efallai fod awdurdod lleol yn paru data budd-daliadau yn erbyn setiau data eraill er mwyn atal a chanfod twyll.
Byddai paru awtomataidd yn golygu bod angen i chi wneud rhywfaint o benderfyniadau o hyd, er mwyn sicrhau y caiff y gwaith paru ei wneud i'r safon ddisgwyliedig ac er mwyn datrys ymholiadau.
Ceir amrywiaeth o ffynonellau a allai eich galluogi i gyflawni proses paru data awtomataidd. Efallai fod gan eich awdurdod y gallu i ddatblygu prosesau newydd neu addasu prosesau sydd eisoes yn bodoli i gyflawni hyn, ac mae nifer o gwmnïau preifat yn cynnig gwasanaethau paru data hefyd. Os ydych yn ystyried paru data awtomataidd at ddibenion dilysu, dylech ymchwilio i bob posibilrwydd er mwyn canfod ateb costeffeithiol.
Os byddwch yn dewis gosod unrhyw weithgareddau paru data lleol ar gontract allanol, naill ai i gwmni preifat neu i ran arall o'ch awdurdod lleol, dylech sicrhau bod pwy bynnag a fydd yn paru'r data yn gwbl ymwybodol o ddeddfwriaeth diogelu data a'r rheolau mewn perthynas â chyflenwi'r gofrestr etholwyr.