Penderfynu a ddylid defnyddio data lleol at ddibenion dilysu
Nid yw'n orfodol defnyddio data lleol i ddilysu drwy brosesau paru. Cyn penderfynu a ddylid defnyddio proses paru data lleol, dylech ystyried manteision paru data lleol o ran lleihau'r baich ar yr ymgeisydd i gyflwyno tystiolaeth, a chostau dilynol.
Cyn defnyddio data lleol i benderfynu ar gais, rhaid i chi ofyn y cwestiynau canlynol:1
pa ffynonellau data lleol sydd ar gael i mi?
a yw'r cofnod data rwy'n bwriadu ei ddefnyddio yn gywir?
pa fudd a gaf o ddefnyddio proses paru data lleol i gyflawni tasg benodol?
pa adnoddau y bydd eu hangen arnaf i allu defnyddio data lleol yn effeithiol?
beth yw'r costau sy'n gysylltiedig â datblygu/defnyddio'r gallu i baru data lleol?
a allaf gael canlyniadau buddiol mewn da bryd i ddiwallu anghenion y dasg?
Efallai y byddwch yn penderfynu na ellir defnyddio'r setiau data lleol sydd ar gael i gadarnhau pwy yw'r ymgeisydd neu y byddai cyfeirio'r ymgeisydd at y broses eithriadau yn ffordd fwy effeithiol o gadarnhau pwy ydyw.