| Argraffu'r canllawiau llawn

Gofynion y broses ardystio

Pan ddaw ardystiad i law, dylech ofyn y cwestiynau canlynol er mwyn asesu a yw'r ardystiad yn bodloni gofynion y ddeddfwriaeth:

Cwestiwn – A yw'r ardystiwr wedi gwneud y canlynol:NodiadauAteb
nodi mai'r ymgeisydd yw'r sawl a enwir yn y cais?byddai hyn ar ffurf datganiad ysgrifenedig a llofnod yr ardystiwrYdy/Nac ydy
cadarnhau ei fod yn ymwybodol o'r gosb am roi gwybodaeth anwir?byddai hyn ar ffurf datganiad ysgrifenedig a llofnod yr ardystiwrYdy/Nac ydy
cadarnhau nad yw'n ŵr/gwraig, partner sifil, rhiant, tad-cu/mam-gu, brawd, chwaer, plentyn nac ŵyr/wyres i'r ymgeisydd?byddai hyn ar ffurf datganiad ysgrifenedig a llof yr ardystiwrYdy/Nac ydy
rhoi ei enw llawn?dylai fod wedi'i ysgrifennu neu ei argraffu ar yr ardystiad nodYdy/Nac ydy
rhoi ei ddyddiad geni?dylai fod wedi'i ysgrifennu neu ei argraffu ar yr ardystiadYdy/Nac ydy
wedi nodi ei gyfeiriad?dylai fod wedi'i ysgrifennu neu ei argraffu ar yr ardystiadYdy/Nac ydy
wedi nodi ei gyfeiriad?dylai fod wedi'i ysgrifennu neu ei argraffu ar yr ardystiadYdy/Nac ydy
rhoi ei rif etholiadol? dylai fod wedi'i ysgrifennu neu ei argraffu ar yr ardystiadYdy/Nac ydy
rhoi ei alwedigaeth?dylai fod wedi'i hysgrifennu neu ei hargraffu ar yr ardystiadYdy/Nac ydy
dyddio'r ardystiad?dylai fod wedi'i hysgrifennu neu ei hargraffu ar yr ardystiadYdy/Nac ydy
llofnodi'r ardystiad?    dylai fod wedi'i hysgrifennu neu ei hargraffuYdy/Nac ydy

Os mai ‘ydy’ yw'r ateb i bob un o'r cwestiynau hyn, yna mae'r ymgeisydd wedi cyflwyno ardystiad cyflawn. Os mai ‘nac ydy’ yw'r ateb i un neu fwy o'r cwestiynau, yna nid yw'r ardystiad yn gyflawn a rhaid dweud wrth yr ymgeisydd ofyn i'r ardystiwr ddarparu'r wybodaeth goll. 

Os na all ardystiwr ddarparu'r wybodaeth goll, dylid dweud wrth yr ymgeisydd ei bod yn rhaid iddo geisio ardystiad o ffynhonnell arall, neu fel arall caiff ei gais ei wrthod. Efallai yr hoffech bennu terfyn amser ar gyfer hyn. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 6 Ionawr 2026