Sut i ddefnyddio'r broses ardystio

Rhaid i chi roi gwybod i'r ymgeisydd beth yw'r gofynion deddfwriaethol ar gyfer ardystiad.1  

Gallech naill ai ddylunio ffurflen yn cynnwys y datganiadau a'r gofynion cyfreithiol angenrheidiol ar gyfer ardystiad neu nodi'r manylion yn y llythyr at yr ymgeisydd. 

Dylech hefyd ddarparu enghreifftiau o rywun ac iddo enw da er mwyn helpu'r ymgeisydd i ddewis ardystiwr addas. Dylech gynghori'r ymgeisydd na chaniateir i ardystiwr godi tâl am ddarparu ardystiad.

Os bydd ymgeisydd yn cyflwyno ardystiad sy'n cynnwys yr holl wybodaeth ofynnol, dylech ei dderbyn fel un dilys.

Efallai yr hoffech ystyried pennu terfyn amser i'r ymgeisydd ymateb. Bydd hyn yn eich helpu os byddwch yn penderfynu gwrthod cais am na chafwyd ymateb. Eich dewis chi fydd faint o amser a roddir i ymgeiswyr ymateb. Fodd bynnag, dylech ganiatáu digon o amser i'r ymgeisydd gael ardystiad a'i anfon.

Ni ddylech benderfynu ar gais nes bod cais cyflawn wedi'i wneud. Nid ystyrir bod cais y mae angen iddo fynd drwy'r broses ardystio yn gyflawn nes y bydd yr ymgeisydd yn cyflwyno ardystiad boddhaol sy'n cadarnhau pwy ydyw. 

Gellir danfon ardystiad i'ch swyddfa â llaw neu drwy'r post. Nid yw dulliau danfon electronig, megis e-bost, yn dderbyniol. 

Os na all ymgeisydd ddanfon ei ardystiad atoch, gallwch ddewis anfon aelod o staff i gyfeiriad cofrestredig yr ymgeisydd i gasglu'r ardystiad yn bersonol.

Mae'n ofynnol i'r ardystiwr roi ei rif etholiadol fel rhan o'i ardystiad2 .  Dylech fod yn ymwybodol y bydd darpar ardystwyr efallai'n gofyn i chi am y wybodaeth hon. 
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mai 2021