Gwiriadau dilysrwydd dogfennau

Diben cyflwyno dogfennau i ategu cais yw eich galluogi i fodloni eich hun ynglŷn â phwy sy'n gwneud y cais a chadarnhau mai'r person hwnnw yw'r sawl sydd wedi'i enwi yn y cais. Felly, bydd angen i chi fod yn fodlon bod dogfen a roddwyd i chi at y diben hwn yn ddilys.

Mae'r Swyddfa Gartref wedi llunio canllawiau ar archwilio dogfennau adnabod. Maent yn ymdrin â'r canlynol:

  • y nodweddion diogelwch mewn dogfennau adnabod 
  • sut y caiff dogfennau adnabod eu ffugio 
  • sut i ganfod ffugiadau sylfaenol

Mae cyngor cyffredinol ar yr hyn i chwilio amdano wrth benderfynu a yw dogfen yn ddilys i'w gael ar wefan y Ganolfan Diogelu Seilwaith Genedlaethol.

Mae'r tabl canlynol yn dangos ble y gellir cael canllawiau ar fwrw golwg dros ddogfennau penodol y gellir eu defnyddio i gadarnhau pwy yw ymgeisydd. Dim ond y dogfennau y mae canllawiau ar gael ar eu cyfer sydd wedi'u nodi:

     

Tabl 1: Prif ddogfennau adnabod
Dogfen Adnoddau
Unrhyw basbort cyfredol

Mae lluniau o holl basbortau'r UE a gwybodaeth am eu nodweddion diogelwch i'w gweld yn:

https://www.consilium.europa.eu/prado/en/prado-start-page.html

Mae lluniau o'r pasbortau a ddosberthir gan y mwyafrif o wledydd ar gael ar y wefan ganlynol:

http://www.edisontd.net/

Trwydded preswylio fiometrig (a ddosbarthwyd yn y DU yn unig)

Mae lluniau a nodweddion diogelwch wedi'u cynnwys yn y canllaw canlynol:

https://www.gov.uk/government/publications/biometric-residence-permits-applicant-and-sponsor-information
 

Cerdyn adnabod yr Ardal Economaidd Ewropeaidd

Mae lluniau a nodweddion diogelwch i'w gweld yn:

https://www.consilium.europa.eu/prado/en/pradostart-page.html

Trwydded yrru gyfredol – cerdyn llun a'r wrthran; llawn neu dros dro (y DU/Ynys Manaw/Ynysoedd y Sianel)

Mae canllaw ar ran cerdyn llun y drwydded i'w weld yn:

https://www.gov.uk/guidance/changes-to-the-driving-licence-and-categories#your-licence-explained 

       

Tabl 2: Dogfennau Dibynadwy gan y Llywodraeth
Dogfen     Adnoddau
Trwydded yrru ffotograffig gyfredol (Unrhyw wlad heblaw'r DU a Thiriogaethau Dibynnol ar y Goron)     

Mae lluniau o drwyddedau'r UE a gwybodaeth am eu nodweddion diogelwch i'w gweld yn:

https://www.consilium.europa.eu/prado/en/prado-start-page.html

Tystysgrif geni (y DU a Thiriogaethau Dibynnol ar y Goron yn unig)  

 Mae dogfen ganllaw ar dystysgrifau geni'r DU ar gael yn:

https://www.gov.uk/government/publications/birth-certificates-and-the-full-birth-certificate-policy/birth-certificates-and-the-full-birth-certificate-policy

Tystysgrif mabwysiadu (y DU a Thiriogaethau Dibynnol ar y Goron yn unig)    

 

Mae enghreifftiau i'w gweld yn Nodyn Swyddfa Basbort EM i Rieni ar Orchmynion Mabwysiadu:


https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/800942/Note_for_parents_Mar_2019__4_.pdf

Trwydded arfau tanio (y DU a Thiriogaethau Dibynnol ar y Goron yn unig)

Mae fformat tystysgrifau arfau tanio i'w weld yn:

http://www.legislation.gov.uk/uksi/1998/1941/schedule/1/part/II/made

Taflen mechnïaeth yr heddlu (y DU a Thiriogaethau Dibynnol ar y Goron yn unig) Nid oes taflen safonol ar gyfer mechnïaeth yr heddlu. Os bydd gennych amheuon ynglŷn â dilysrwydd y ddogfen, gallwch gysylltu â'r heddlu a'i dosbarthodd. Gallech hefyd gysylltu â heddlu(oedd) lleol eich ardal i gael taflenni mechnïaeth enghreifftiol.
Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mai 2021