Cynnal cofrestru etholiadol - Cymru
Mathau derbyniol o ddogfennau ar gyfer y broses eithriadau
Ym mhob achos, dylai'r dogfennau sy'n ofynnol i gadarnhau pwy yw ymgeisydd yn llwyddiannus gyfeirio at yr ymgeisydd wrth ei enw. Dyma'r mathau a'r meintiau o ddogfennau sydd eu hangen i sefydlu hunaniaeth ymgeisydd yn llwyddiannus:
- unrhyw un ddogfen o dabl 1
- un ddogfen o dabl 2 a dwy ddogfen ychwanegol o naill ai dabl 2 neu dabl 3
- pedair dogfen o restr 3
| Dogfen | Nodiadau |
|---|---|
| pasbort yr ymgeisydd | unrhyw basport cyfredo |
| cerdyn adnabod yr ymgeisydd a gyhoeddwyd gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd | Rhaid bod yn ddilys |
| dogfen mewnfudo fiometrig yr ymgeisydd a gyhoeddwyd yn y Deyrnas Unedig yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 5 o Ddeddf Ffiniau 20072 | Rhaid bod yn ddilys |
| cerdyn adnabod etholiadol yr ymgeisydd a gyflwynwyd yng Ngogledd Iwerddon | Rhaid bod yn ddilys |
| trwydded yrru cerdyn-llun a roddwyd yn y Deyrnas Unedig neu drwydded yrru a roddwyd gan un o Diriogaethau Dibynnol y Goron, sydd â llun o'r ymgeisydd | Rhaid bod yn ddilys (trwydded llawn neu dros dro) |
| Dogfen | Nodiadau |
|---|---|
| tystysgrif geni'r ymgeisydd | Wedi'i gyhoeddi yn y Deyrnas Unedig neu Dibynwledydd y Goron yn unig |
| tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil yr ymgeisydd | Wedi'i gyhoeddi yn y Deyrnas Unedig neu Dibynwledydd y Goron yn unig |
| tystysgrif mabwysiadu'r ymgeisydd | Wedi'i gyhoeddi yn y Deyrnas Unedig neu Dibynwledydd y Goron yn unig |
| tystysgrif arfau tanio'r ymgeisydd a roddwyd o dan Ddeddf Arfau Tanio 1968 | Wedi'i gyhoeddi yn y Deyrnas Unedig neu Dibynwledydd y Goron yn unig |
| cofnod penderfyniad ar fechnïaeth a wnaed mewn perthynas â'r ymgeisydd yn unol ag adran 5(1) o Ddeddf Mechnïaeth 1976 | Wedi'i gyhoeddi yn y Deyrnas Unedig neu Dibynwledydd y Goron yn unig |
| trwydded yrru'r ymgeisydd, nad yw ar ffurf cerdyn-llun | Wedi'i gyhoeddi yn y Deyrnas Unedig neu Dibynwledydd y Goron yn unig |
| trwydded yrru’r ymgeisydd y a roddwyd y tu allan i’r Deyrnas Unedig neu Dibynwledydd y Goron, sydd â llun o'r ymgeisydd | Rhaid bod yn ddilys am o leiaf 12 mis o'r dyddiad y daeth yr ymgeisydd i'r Deyrnas Unedig |
| Dogfen | Nodiadau | Dyddiad cyhoeddi |
|---|---|---|
| Datganiad Morgais | DU, Dibynwledydd y Goron neu AEE | Wedi'i gyhoeddi yn ystod y 12 mis diwethaf |
| Datganiad Banc neu Gymdeithas Adeiladu | DU, Dibynwledydd y Goron neu AEE | Wedi'i gyhoeddi yn ystod y 3 mis diwethaf |
| Datganiad banc neu Gymdeithas Adeiladu, neu lythyr cadarnhad cyfrif | DU a Dibynwledydd y Goron | Wedi'i gyhoeddi yn ystod y 3 mis diwethaf |
| Datganiad cerdyn credyd | DU, Dibynwledydd y Goron neu AEE | Wedi'i gyhoeddi yn ystod y 3 mis diwethaf |
| Datganiad ariannol, e.e. pensiwn neu ddatganiad gwaddol | DU, Dibynwledydd y Goron neu AEE | Wedi'i gyhoeddi yn ystod y 12 mis diwethaf |
| Datganiad Treth Gyngor | DU a Dibynwledydd y Goron | Wedi'i gyhoeddi yn ystod y 12 mis diwethaf |
| Bil cyfleustodau – nid bil ffôn symudol | DU a Dibynwledydd y Goron | Wedi'i gyhoeddi yn ystod y 3 mis diwethaf |
| Datganiad P45 neu P60 | DU a Dibynwledydd y Goron | Wedi'i gyhoeddi yn ystod y 12 mis diwethaf |
| Datganiadau Budd-daliadau e.e Budd-dal Plant, Pensiwn | DU a Dibynwledydd y Goron | Wedi'i gyhoeddi yn ystod y 3 mis diwethaf |
| Dogfen llywodraeth ganolog neu leol, asiantaeth lywodraethol, neu gyngor lleol sy'n rhoi hawl, e.e. gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, Canolfan Byd Gwaith, CThEM | DU a Dibynwledydd y Goron | Wedi'i gyhoeddi yn ystod y 3 mis diwethaf |
I gael gwybodaeth am y cyfnod cadw dogfennau ar gyfer dogfennau a dderbynnir fel rhan o gais, gan gynnwys o dan y broses eithriadau ac am yr hyn y dylid ei adlewyrchu yn eich polisi cadw dogfennau, gweler ein canllawiau ar gadw dogfennau.
Rydym wedi cynhyrchu hysbysiadau a llythyrau templed y gallwch eu defnyddio wrth ymgymryd â'r broses eithriadau..
- 1. Rheoliad 26B(2), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) (Rheoliadau 2001) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Mae eFisa yn ddogfen breswylio fiometrig ar ffurf ddigidol. Ar hyn o bryd ni ellir cyflwyno unrhyw ffurf arall o ID ffotograffig ar ffurf ddigidol. ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheoliad 26B(3)(a), Rheoliadau 2001 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheoliad 26B(4), Rheoliadau 2001 ↩ Back to content at footnote 4
Diweddarwyd ddiwethaf: 5 Mawrth 2026