Dileu cofnod etholwr oddi ar y gofrestr

Bydd person sydd wedi'i gofrestru yn parhau i fod wedi'i gofrestru oni fydd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn penderfynu:1  

  • nad oedd gan y person hawl i fod wedi'i gofrestru mewn perthynas â'r cyfeiriad
  • bod y person wedi rhoi'r gorau i fyw yn y cyfeiriad neu ei fod wedi peidio â bodloni'r amodau ar gyfer cofrestru mewn ffordd arall
  • bod y person wedi'i gofrestru o ganlyniad i gais i gofrestru a wnaed gan rywun arall (h.y. nid yr unigolyn y darparwyd ei fanylion ac a ddatganodd dod y wybodaeth ar y cais yn wir) neu fod cofnod y person wedi'i newid o ganlyniad i gais am newid enw a wnaed gan rywun arall

Os byddwch yn dod yn ymwybodol o wybodaeth sy'n achosi i chi amau y gall un o'r amodau yn y rhestr uchod fod wedi'i fodloni, neu os byddwch yn cael gwrthwynebiad dilys i gofrestriad person,2 rhaid i chi ystyried a ddylid dileu cofnod person oddi ar y gofrestr.

Pan fyddwch wedi penderfynu nad oes gan rywun hawl i fod wedi'i gofrestru mwyach, rhaid i'w enw gael ei ddileu oddi ar y gofrestr.3
 
Gall fod amgylchiadau lle byddwch yn penderfynu y dylid dileu cofnod etholwr oddi ar y gofrestr seneddol ond y gellid ei gadw ar y gofrestr llywodraeth leol. Er enghraifft, efallai na fydd ei genedligrwydd yn ei gwneud yn gymwys i gael ei gynnwys ar y gofrestr seneddol. 

Ni ddylech gadw unrhyw ddogfennau sy'n ymwneud ag etholwr penodol am fwy na 12 mis ar ôl i'w enw gael ei dynnu oddi ar y gofrestr oni fydd her gyfreithiol neu ymchwiliad, gan mai dyma'r terfyn amser arferol ar gyfer unrhyw erlyniadau.

Mae darpariaethau arbennig yn gymwys i etholwyr categori arbennig.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mai 2021