Pan fyddwch wedi gwneud penderfyniad mewn unrhyw wrandawiad, bydd gan yr ymgeisydd, y gwrthwynebydd neu'r etholwr yr hawl i gyflwyno hysbysiad o apêl o fewn 14 diwrnod calendr yn dechrau o ddyddiad y penderfyniad.1
Dylid egluro'r broses ar gyfer gwneud apêl i unrhyw un sy'n bresennol mewn gwrandawiad.
Pan fydd yr ymgeisydd, yr etholwr neu'r gwrthwynebydd wedi methu bod yn bresennol yn y gwrandawiad, dylech ysgrifennu ato i'w hysbysu o'r canlyniad a chynnwys manylion ei hawl i apelio.
Rhaid cyflwyno'r hysbysiad apelio i chi ac unrhyw barti perthnasol arall, ynghyd â sail yr apêl. Yna, rhaid i chi anfon yr hysbysiad i'r llys sirol, ynghyd â:2
datganiad o'r ffeithiau perthnasol a gadarnhawyd yn yr achos, yn eich barn chi
eich penderfyniad ar yr achos cyfan ac ar unrhyw bwynt a nodir fel sail yr apêl
Rhaid i chi hysbysu'r llys sirol priodol o unrhyw apeliadau sy'n seiliedig ar seiliau tebyg yn eich barn chi er mwyn galluogi'r llys i gyfuno'r achosion neu ddewis un fel achos prawf.3
Bydd angen gwrando apeliadau cofrestru dienw, na allant ond godi o adolygiadau neu'r cais gwreiddiol, yn breifat oni fydd y llys yn penderfynu fel arall.
Bydd angen gwrando apêl gofrestru mewn perthynas â pherson dan 16 oed, ar ôl gwrandawiad, yn breifat oni fydd y llys yn penderfynu fel arall.