Gwneud dileadau oddi ar y gofrestr heb adolygiad

Er mwyn dileu cofnod person oddi ar y gofrestr mae'n rhaid i chi benderfynu nad oes ganddo hawl i fod wedi'i gofrestru mwyach. 

Dim ond o dan un o'r amgylchiadau canlynol y gallwch fynd ati i wneud y penderfyniad hwn heb thystiolaeth neu adolygiad pellach.1  

  • rydych yn cael hysbysiad drwy Wasanaeth Digidol Cofrestru Etholiadol Unigol bod person sydd wedi'i gofrestru yn eich ardal wedi gwneud cais i gofrestru yn rhywle arall a'i fod wedi nodi ei fod wedi rhoi'r gorau i fyw yn y cyfeiriad yn eich ardal, a bod y Swyddog Cofrestru Etholiadol newydd wedi caniatáu'r cais
  • rydych yn cael hysbysiad gan Swyddog Cofrestru Etholiadol arall bod person sydd wedi'i gofrestru yn eich ardal wedi gwneud cais i gofrestru yn rhywle arall a'i fod wedi nodi ei fod wedi rhoi'r gorau i fyw yn y cyfeiriad yn eich ardal, a bod y Swyddog Cofrestru Etholiadol newydd wedi caniatáu'r cais
  • rydych wedi cael gwybodaeth o ddwy ffynhonnell o leiaf sy'n cefnogi penderfyniad nad oes gan berson hawl i fod wedi'i gofrestru yn y cyfeiriad mwyach
  • rydych wedi cael tystysgrif marwolaeth mewn perthynas â'r etholwr
  • mae'r cofrestrydd genedigaethau a marwolaethau wedi eich hysbysu bod yr etholwr wedi marw
  • rydych yn fodlon bod yr etholwr wedi marw ar ôl cael gwybodaeth:
    • o ganlyniad i'r canfasiad (er enghraifft, gohebiaeth ganfasio sy'n cael ei dychwelyd gan nodi bod etholwr wedi marw)
    • gan berthynas agos (gŵr/gwraig, partner sifil, rhiant, tad-cu/mam-gu, brawd, chwaer, plentyn neu ŵyr/wyres i'r etholwr). Gall hyn gael ei ddarparu yn bersonol, dros y ffôn neu'n ysgrifenedig ond rhaid iddo gynnwys:
      • enw llawn a chyfeiriad yr etholwr sydd wedi marw;
      • enw llawn a chyfeiriad y person sy'n darparu'r wybodaeth;
      • ei berthynas â'r sawl a fu farw; 
      • datganiad bod y person sy'n darparu'r wybodaeth yn ymwybodol o'r gosb am ddarparu gwybodaeth anwir2  
    • gan reolwr cartref gofal cofrestredig.3 Gall hyn gael ei ddarparu yn bersonol, dros y ffôn neu'n ysgrifenedig ond rhaid iddo gynnwys:
      • enw llawn a chyfeiriad yr etholwr sydd wedi marw;
      • enw llawn a chyfeiriad y person sy'n darparu'r wybodaeth; 
      • datganiad bod y person sy'n darparu'r wybodaeth yn ymwybodol o'r gosb am ddarparu gwybodaeth anwir4  
    • O gofnodion y cyngor a'ch penododd 
    • Gan berson neu sefydliad sy'n darparu gwasanaethau i'r cyngor a'ch penododd 
  • Os cewch eich hysbysu ar gais bod etholwr wedi rhoi'r gorau i fyw mewn cyfeiriad arall yn yr un ardal gofrestru, a bod y cais yn y cyfeiriad newydd yn llwyddiannus, dylech ddiwygio cofnod yr etholwr ar y gofrestr er mwyn dileu ei gofnod ar y gofrestr sy'n cynnwys ei gyfeiriad blaenorol.5  

Pan gaiff gwybodaeth ei darparu'n bersonol neu dros y ffôn rhaid i chi gofnodi'r wybodaeth yn ysgrifenedig neu ar ffurf data.

Mewn unrhyw amgylchiadau eraill, rhaid i chi gynnal adolygiad cyn dileu cofnod person oddi ar y gofrestr.6  
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 6 Hydref 2023