Sut y gall etholwr y mae ei gofnod wedi cael ei ddileu oddi ar y gofrestr apelio?

Pan fydd cofnod rhywun wedi cael ei ddileu oddi ar y gofrestr, bydd ganddo 14 diwrnod o ddechrau dyddiad y penderfyniad i'w ddileu oddi ar y gofrestr i apelio yn erbyn y penderfyniad.1
 
Rhaid cyflwyno'r hysbysiad apelio i chi ac unrhyw barti perthnasol arall, ynghyd â sail yr apêl.2 Yna, rhaid i chi anfon yr hysbysiad i'r llys sirol, ynghyd â:3  

  • datganiad o'r ffeithiau perthnasol a gadarnhawyd yn yr achos, yn eich barn chi
  • eich penderfyniad ar yr achos cyfan ac ar unrhyw bwynt a nodir fel sail yr apêl

Os byddwch yn ystyried bod unrhyw apeliadau yn seiliedig ar seiliau tebyg, rhaid i chi hysbysu'r llys sirol priodol o hyn er mwyn galluogi'r llys i gyfuno'r achosion neu ddewis un fel achos prawf.4  
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mai 2021