Pa wybodaeth y mae'n rhaid i mi ei chadw am adolygiadau o gofrestriadau?
Rhaid i chi gadw rhestr o adolygiadau.1
Mae'n rhaid i'r rhestr gynnwys y wybodaeth ganlynol ar gyfer pob adolygiad, oni fydd yr adolygiad yn ymwneud â chofnod dienw ar y gofrestr.2
enw llawn, cyfeiriad cymhwyso a rhif etholwr y sawl sy'n destun adolygiad
y rheswm dros yr adolygiad
Mae'n rhaid i'r rhestr fod ar gael i'w harchwilio yn eich swyddfa.3
Gallwch gadw'r rhestr ar ffurf electronig, e.e. ar eich System Rheoli Etholiad, a llunio copi papur i'w archwilio yn ôl y gofyn.
Dylech gynnal trywydd archwilio clir o'r adolygiadau a gynhaliwyd gennych a'r prosesau rydych wedi'u dilyn, yn cynnwys cofnodion o wybodaeth a ystyriwyd gennych wrth wneud penderfyniad.
Os bydd y sawl sy'n destun adolygiad dan 16 oed, ni ddylech ei gynnwys yn y rhestr o adolygiadau sydd ar gael i'w harchwilio yn eich swyddfa.4