Prosesu newid i enw etholwr

Gall etholwr presennol wneud cais i newid ei enw ar y gofrestr.

Trwy gyflwyno cais i newid ei enw1

Trwy wneud cais newydd i gofrestru (heblaw etholwyr tramor)

Os bydd yr etholwr yn cyflwyno cais i newid ei enw, rhaid iddo wneud hynny drwy ddefnyddio'r ffurflen a gymeradwywyd gan y Gweinidog dros Adran Lefelu i Fyny, Tai a Chymunedau ar y cyd â Gweinidogion Cymru2 ac a ddarparwyd gan y Comisiwn. Mae ar gael ar ein tudalen we ffurflenni cofrestru a llythyrau

Rhaid i'r cais gael ei wneud yn ysgrifenedig a rhaid iddo gynnwys:3  

  • enw llawn yr ymgeisydd
  • yr enw llawn y mae wedi'i ddefnyddio i gofrestru 
  • dyddiad y newidiwyd ei enw 
  • y cyfeiriad cofrestru 
  • datganiad gan yr ymgeisydd bod y wybodaeth a roddwyd yn y cais yn wir
  • dyddiad y cais
  • tystiolaeth ddogfennol yn cefnogi'r newid

Os na all person ddarparu tystiolaeth ddogfennol addas rhaid iddo roi ei ddyddiad geni a'i rif Yswiriant Gwladol fel rhan o'i gais. Os na all ddarparu ei ddyddiad geni na rhif Yswiriant Gwladol, rhaid iddo roi'r rheswm pam na all wneud hynny.4
 
Nid yw'n ofynnol i ymgeiswyr o dan 16 oed ddarparu eu rhif Yswiriant Gwladol na rhoi rheswm pam na all wneud hynny. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Chwefror 2024