Prosesu newid i genedligrwydd etholwr

Pan fydd etholwr yn nodi bod ei genedligrwydd wedi newid, dylech gadarnhau a yw hyn yn effeithio ar ei hawl i bleidleisio. Os bydd y newid yn effeithio ar ei hawl, byddai angen iddo wneud cais newydd i gofrestru.

Er enghraifft, os oedd etholwr sy'n dod yn ddinesydd Prydeinig, yn ddinesydd yng Ngweriniaeth Iwerddon neu'n ddinesydd mewn gwlad arall yn y Gymanwlad ond wedi'i gofrestru ar y gofrestr etholwyr llywodraeth leol yn flaenorol, rhaid iddo wneud cais newydd er mwyn cael ei ychwanegu at y gofrestr o etholwyr Senedd y DU. Gan fod hyn yn gyfystyr â chais newydd, bydd angen i fanylion yr etholwr fynd drwy'r holl broses gwneud cais, dilysu a phenderfynu eto.

Yn yr un modd, os daw etholwr a oedd wedi’i gofrestru'n flaenorol fel dinesydd tramor (gan gynnwys dinasyddion yr UE nad oeddent yn bodloni’r meini prawf i fod wedi’u cofrestru fel dinesydd yr UE sydd â hawliau a gedwir) yn ddinesydd UE5, mae’n rhaid iddo wneud cais newydd er mwyn gallu pleidleisio mewn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu. Fel uchod, gan fod hyn yn gais newydd, bydd rhaid i fanylion yr etholwr fynd trwy’r broses ymgeisio, dilysu a phennu eto.

Os cewch eich hysbysu o newid o'r fath mewn ymateb i ohebiaeth ganfasio, dylech wahodd y person i wneud cais newydd i gofrestru, gan na ellir cofrestru person drwy ohebiaeth ganfasio.

Os nad ydych yn fodlon ynghylch cenedligrwydd unrhyw ymgeisydd neu etholwr, mae gennych y pŵer i'w gwneud yn ofynnol i'r ymgeisydd neu'r etholwr roi tystiolaeth ddogfennol i chi sy'n cadarnhau ei genedligrwydd.1  Yn yr amgylchiadau a nodir uchod, pan fydd newid mewn cenedligrwydd yn effeithio'n gadarnhaol ar hawl etholwr i bleidleisio, dylech ofyn am dystiolaeth ddogfennol o'r newid mewn cenedligrwydd.

Seremonïau dinasyddiaeth

Dylech edrych ar restrau sydd gan y cofrestrydd yn rheolaidd am wybodaeth am bwy sydd wedi dod yn ddinesydd Prydeinig drwy seremonïau dinasyddiaeth, fel rhan o'ch pŵer i archwilio cofnodion lleol. Mae hawl gennych i archwilio'r cofnodion hyn a gwneud copïau ohonynt, a gallech eu defnyddio, er enghraifft, i nodi darpar etholwyr newydd a rhoi gwahoddiad iddynt i gofrestru. Gellid rhoi gwybodaeth am y broses o wneud cais i gofrestru i bleidleisio hefyd i'r cofrestrydd ei chynnwys yn y pecyn sydd ar gael i'r rhai sy'n dod yn ddinasyddion Prydeinig.

Er mwyn dangos bod yr holl wybodaeth a gafwyd yn cydymffurfio ag egwyddorion prosesu data personol, gan sicrhau y caiff ei phrosesu mewn modd cyfreithlon, teg a thryloyw, dylech gadw cofnod o'r cofnodion lleol rydych wedi'u harchwilio a'r camau a gymerwyd gennych ar sail y wybodaeth a gawsoch. 

Rydym wedi llunio canllawiau ar archwilio cofnodion, yn cynnwys pa fanylion y dylid eu cofnodi i'ch helpu i ddangos eich bod yn cydymffurfio â'ch rhwymedigaethau o dan ddeddfwriaeth diogelu data.

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, dosberthir data ar genedligrwydd yn gategori arbennig o ddata personol oherwydd gall ddatgelu tarddiad hiliol neu ethnig unigolyn. Nid yw deddfwriaeth diogelu data yn caniatáu prosesu categorïau arbennig o ddata personol oni chaiff sail gyfreithlon ychwanegol y tu hwnt i'r hyn sydd at brif ddibenion prosesu data ei bodloni. Y sail gyfreithlon briodol ar gyfer prosesu categorïau arbennig o ddata personol at ddibenion etholiadol fyddai nodi bod hynny'n angenrheidiol am resymau budd cyhoeddus sylweddol ac â sail yng nghyfraith y DU.

Mae Deddf Diogelu Data 2018 yn nodi, er mwyn gallu prosesu data ar genedligrwydd, fod yn rhaid i chi roi polisi ar waith y mae'n rhaid iddo, ymysg pethau eraill, egluro eich gweithdrefnau prosesu lleol a'ch polisïau ar gyfer cadw a dileu data personol. 

Rhaid i'r ddogfen bolisi hon gael ei hadolygu a'i diweddaru ar adegau priodol, ei chadw am chwe mis ar ôl i'r cyfnod prosesu ddod i ben, a bod ar gael i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar gais.  

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Mai 2024