Cynnal cofrestru etholiadol - Cymru
Gwrthwynebiadau i gais i gofrestru neu gael cofnod ar y gofrestr
Gall etholwr sydd wedi'i gofrestru yn eich ardal wrthwynebu cofrestriad person unrhyw bryd, naill ai cyn neu ar ôl i chi ychwanegu'r person hwnnw at y gofrestr. Gellir gwrthwynebu ceisiadau i gofrestru a hefyd gofnodion sydd eisoes ar y gofrestr unrhyw bryd, cyn neu ar ôl i chi ychwanegu'r person hwnnw at y gofrestr.
Ni ddylid nodi cais a wneir gan berson o dan 16 oed ar y rhestr o geisiadau sydd ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd.1
Fodd bynnag, nid oes dim i atal rhywun rhag gwrthwynebu'r cais. Gellid gwrthwynebu cofnod ar y gofrestr ar gyfer person dan 16 oed hefyd.
Y seiliau dros wrthwynebu yw naill ai:
- nad yw'r person yn bodloni un neu bob un o'r gofynion ar gyfer cofrestru, sef bod yn gymwys o ran oedran, cenedligrwydd a phreswylio
- bod y person wedi'i anghymhwyso'n gyfreithiol rhag cofrestru
Gall fod amgylchiadau lle gwneir gwrthwynebiad mewn perthynas â chais neu gofnod ar y gofrestr seneddol ac nid ar y gofrestr llywodraeth leol. Er enghraifft, efallai na fydd cenedligrwydd ymgeisydd yn ei wneud yn gymwys i gael ei gynnwys ar y gofrestr seneddol.
Efallai na fydd rhai etholwyr am wneud gwrthwynebiad ffurfiol am eu bod am gadw eu manylion yn ddienw. Fodd bynnag, nid yw hyn yn eich atal rhag cynnal adolygiad o hawl i gofrestru.
Rhaid i wrthwynebiadau:2
- gael eu gwneud yn ysgrifenedig
- cael eu llofnodi a'u dyddio gan yr etholwr sy'n gwrthwynebu (‘y gwrthwynebydd’) – ni all y llofnod fod yn un electronig
- cynnwys enw, cyfeiriad a rhif etholiadol y gwrthwynebydd – dylai'r cyfeiriad fod fel y mae'n ymddangos ar y gofrestr os dangosir ef, ac os na ddangosir cyfeiriad o'r fath neu os yw'r gwrthwynebydd am i ohebiaeth gael ei hanfon i gyfeiriad gwahanol, dylid rhoi'r cyfeiriad gohebu
- rhoi enw, cyfeiriad cymhwyso a rhif etholiadol yr etholwr a wrthwynebir, neu, os nad yw wedi cofrestru eto, ei enw a'i gyfeiriad fel y nodir yn y cais
- rhoi'r rheswm dros y gwrthwynebiad
Mae gennych hawl i ofyn am ragor o wybodaeth am fanylion unrhyw wrthwynebiad. Er enghraifft, os nad yw gwrthwynebydd wedi rhoi cyfeiriad cymhwyso'r person y mae'n ei wrthwynebu, dylech ysgrifennu at y gwrthwynebydd yn gofyn amdano cyn cymryd unrhyw gamau pellach. Unwaith y byddwch yn fodlon bod gennych yr holl fanylion, gallwch barhau â'r broses wrthwynebu.
Mae gwrthwynebiadau yn agored i gael eu harchwilio hyd nes y penderfynir arnynt.3
Rhaid i chi gadw dwy restr ar wahân o wrthwynebiadau:4
- rhestr o wrthwynebiadau i geisiadau i gofrestru cyn i'r person gael ei ychwanegu at y gofrestr
- rhestr o wrthwynebiadau i gofnodion sydd eisoes ar y gofrestr
Ni ddylid nodi gwrthwynebiad a wneir gan berson dan 16 oed ar y rhestr o wrthwynebiadau sydd ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd.
Ni ellir gwrthwynebu ceisiadau dienw a'r rhai sydd wedi'u cofrestru'n ddienw.5
- 1. Rheoliad 28(3), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 27(1) a (2), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheoliad 28(1), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheoliad 29(2)(b) ac (c), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Rheoliadau 28(2) a 29(4A), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 ↩ Back to content at footnote 5