Mathau o wrandawiadau

Mae 3 math gwahanol o wrandawiad:

  • Gwrandawiadau ar geisiadau
  • Gwrandawiadau ar wrthwynebiadau
  • Gwrandawiadau adolygu

Gweithrediadau lled-farnwrol yw gwrandawiadau a dim ond chi fel Swyddog Cofrestru Etholiadol neu Ddirprwy Swyddog Cofrestru Etholiadol a benodwyd a all eu cynnal.

Gallwch drefnu gwrandawiad cyn penderfynu ar unrhyw gais neu wrthwynebiad. Gallwch hefyd gynnal gwrandawiad pan fyddwch wedi penderfynu adolygu etholwr presennol. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mai 2021