Pryd y daw dileadau oddi ar y gofrestr yn weithredol?
Pan fyddwch wedi penderfynu na fydd gan berson hawl i barhau i fod wedi'i gofrestru yn y cyfeiriad dan sylw, rhaid i chi ddileu ei gofnod oddi ar y gofrestr a rhoi hyn ar waith pan gaiff yr hysbysiad nesaf o newid ei gyhoeddi neu pan gaiff y gofrestr ddiwygiedig ei chyhoeddi, pa un bynnag fydd yn digwydd gyntaf.
Bydd y dyddiad y daw dileadau yn weithredol yn dibynnu ar bryd y gwnaethoch y penderfyniad:
y diwrnod olaf o'r mis cyn y mis pan gaiff y gofrestr ddiwygiedig ei chyhoeddi3
Cofrestr ddiwygiedig rhwng canfasiadau
14 diwrnod calendr cyn diwedd y mis cyn y mis y disgwylir i'r gofrestr ddiwygiedig gael ei chyhoeddi4
Unwaith y bydd eich penderfyniad i ddileu cofnod yn weithredol, nid oes angen i chi anfon cadarnhad ysgrifenedig o'ch penderfyniad i'r etholwr pan fydd y cofnod wedi'i ddileu o ganlyniad i:5
Gallwch ddewis cadarnhau'r broses o ddileu'r cofnod o hyd os byddwch o'r farn y byddai'n ddefnyddiol gwneud hynny, a gellid gwneud hyn dros e-bost os yw ei gyfeiriad e-bost gennych.
Dylech ystyried a ddylid anfon gohebiaeth ganfasio i'r eiddo i'ch galluogi i nodi unrhyw ddarpar etholwyr newydd a all fod yn byw yn y cyfeiriad hwnnw.