Gwerthu'r gofrestr lawn

Gwerthu'r gofrestr lawn

Mae gan sefydliadau penodol yr hawl i gael copi o'r gofrestr lawn, unrhyw hysbysiad o newid, a'r rhestr o etholwyr tramor, ar ôl talu'r ffi ragnodedig berthnasol (oni fydd hawl gan y sefydliad hwnnw i gael copi am ddim).1  

Ffioedd

Nodir isod y ffioedd rhagnodedig perthnasol:2  

  • Ar gyfer gwerthu'r gofrestr lawn a'r hysbysiadau o newid:  
    • ar ffurf data, £20 yn ogystal â £1.50 am bob 1,000 o gofnodion (neu'r rhan sy'n weddill o 1,000 o gofnodion) ynddi
    • ar ffurf argraffedig, £10 yn ogystal â £5 am bob 1,000 o gofnodion (neu'r rhan sy'n weddill o 1,000 o gofnodion) ynddi
  • Ar gyfer gwerthu'r rhestr o etholwyr tramor: 
    • ar ffurf data, £20 yn ogystal â £1.50 am bob 100 o gofnodion (neu'r rhan sy'n weddill o 100 o gofnodion) ynddi
    • ar ffurf argraffedig, £10 yn ogystal â £5 am bob 100 o gofnodion (neu'r rhan sy'n weddill o 100 o gofnodion) ynddi

Mae'r ffi o £20 am gopi data neu'r ffi o £10 am gopi papur yn gymwys i bob cofrestr gyfan a gynhelir gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol, ac nid yw'r ddeddfwriaeth yn caniatáu i Swyddogion Cofrestru Etholiadol gyfrifo ffioedd ar wahân mewn perthynas â dosbarthiadau pleidleisio a gwmpesir gan y gofrestr. Felly, er enghraifft, os byddwch yn cynnal cofrestrau dwy etholaeth seneddol, bydd y ffi o £20 yn gymwys ar wahân i gofrestr pob etholaeth.

Nid yw'r ddeddfwriaeth yn caniatáu i unrhyw ffioedd gweinyddol nac ychwanegol eraill gael eu codi. 

Rhaid darparu copi o'r gofrestr os daw cais dilys amdano i law, yr amod bod y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn fodlon bod gan y sawl sy'n gwneud y cais yr hawl i gael copi o'r gofrestr. Gall methu â darparu copi o'r gofrestr etholiadol pan fydd angen effeithio ar etholwyr unigol am fod asiantaethau cyfeirio credyd yn defnyddio'r wybodaeth i fetio ceisiadau am gredyd. 

Ffioedd ar gyfer hysbysiadau misol o newid

Mae'r un egwyddor yn gymwys i bob hysbysiad o newid. 

Os daw cais i law i brynu cofrestr lawn ac unrhyw hysbysiadau o newid a gyhoeddwyd cyn i'r cais ddod i law, caiff y gofrestr a'r hysbysiadau eu trin fel un ddogfen at ddibenion cyfrifo'r ffi. Mae hyn yn golygu bod y ffi o £20 yn cynnwys y gofrestr lawn a'r holl hysbysiadau o newid y gofynnwyd amdanynt sydd eisoes wedi cael eu cyhoeddi. 

Pan ddaw cais i law sy'n cynnwys unrhyw hysbysiadau o newid i'w cyhoeddi ar ôl i'r cais ddod i law, caiff y ffi o £20 ei chodi bob tro y caiff hysbysiad dilynol o newid ei gyhoeddi, yn unol â'r cais. 

Cofnodi gwerthiannau o'r gofrestr

Dylech gadw cofnod o drafodion gwerthiannau'r gofrestr er mwyn sicrhau bod y refeniw a gynhyrchwyd, ochr yn ochr â nifer y cofrestrau a werthwyd, ar gael ar gyfer craffu cyhoeddus os bydd angen. Dylech hepgor unrhyw wybodaeth pan ddarperir y cofnod ar gyfer craffu cyhoeddus. 

Manylion dynodi 'Z'

Rhaid i bob copi o'r gofrestr lawn a werthir gynnwys y llythyren 'Z' wrth ymyl enw unrhyw unigolyn na chaiff ei enw ei gynnwys yn y fersiwn olygedig o'r gofrestr a gyhoeddir ar yr adeg honno.3   

Rydym wedi llunio blaenlen ar gyfer gwerthu'r gofrestr etholiadol sy'n nodi sut y gellir defnyddio'r gofrestr, y gosb am ei chamddefnyddio, ac y dylai'r data gael eu dinistrio'n ddiogel pan fydd y diben y darparwyd y gofrestr ar ei gyfer wedi dod i ben. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mai 2021