Defnyddio proses paru data lleol at ddiben prosesu ceisiadau gan etholwyr tramor
Gall paru data lleol roi rhagor o wybodaeth i chi y gallwch ei defnyddio i benderfynu a ddylid caniatáu cais newydd.
Mae paru yn erbyn data lleol yn eich galluogi i ddefnyddio ffynonellau data i wneud y canlynol: 1
llywio eich penderfyniad o ran a ydych yn fodlon bod ymgeisydd yn bodloni naill ai'r amod cofrestriad blaenorol neu'r amod preswylfa flaenorol
cadarnhau pwy yw ymgeisydd.
Dim ond os byddwch yn fodlon y gall y ffynonellau data sydd ar gael i chi fodloni gofynion y dasg y dylid defnyddio paru data lleol.
Ceir rhagor o wybodaeth am baru data lleol yn ein canllawiau Penderfynu a ddylid defnyddio data lleol at ddibenion dilysu a Ffynonellau data posibl ar gyfer paru data lleol .