Cadarnhau pwy yw ymgeisydd ar gyfer cais gan etholwr tramor
Rhaid i unrhyw un sy'n gwneud cais newydd i gofrestru ddarparu dynodyddion personol a gaiff eu defnyddio i gadarnhau pwy yw'r ymgeisydd gan ddefnyddio cofnodion yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Mae'r broses i gadarnhau pwy yw ymgeisydd yn ychwanegol at y broses sydd ei hangen i gadarnhau a yw ymgeisydd yn bodloni'r amodau cymhwystra fel etholwr tramor a oedd naill ai wedi'i gofrestru'n flaenorol neu'n arfer byw mewn cyfeiriad yn y DU.
Caiff y wybodaeth ganlynol a gaiff ei chynnwys yn y cais ei gwirio yn erbyn cofnodion yr Adran Gwaith a Phensiynau:
Enw
Enw blaenorol (lle y bo'n berthnasol)
Dyddiad geni
Rhif Yswiriant Gwladol
Cod post cyfeiriad cymwys yr ymgeisydd
Dylid cysylltu ag ymgeiswyr na allant ddarparu eu rhif Yswiriant Gwladol ond sydd wedi rhoi rheswm pam na allant wneud hynny, a gofyn iddynt ddarparu tystiolaeth ddogfennol1
sy'n cadarnhau pwy ydynt.
Ni waeth pryd y daw cais i gofrestru fel etholwr tramor i law, rhaid i chi anfon y wybodaeth berthnasol i'w pharu â data'r Adran Gwaith a Phensiynau ac ystyried y canlyniadau wrth benderfynu a ddylid caniatáu'r cais.2
Os na ellir cadarnhau pwy yw'r ymgeisydd gan ddefnyddio cofnodion yr Adran Gwaith a Phensiynau, gellir gwirio ei ddynodyddion yn erbyn ffynonellau data lleol hefyd.
Os byddwch yn dal i fethu cadarnhau pwy yw'r ymgeisydd gan ddefnyddio ffynonellau data lleol, gallwch ddewis:
defnyddio unrhyw dystiolaeth ddogfennol a ddarparwyd gan yr ymgeisydd wrth gyflwyno'r cais i gadarnhau pwy ydyw
gofyn i'r ymgeisydd ddarparu tystiolaeth ddogfennol sy'n cadarnhau ei fod yn dweud y gwir am bwy ydyw.
Os byddwch yn dal i fethu cadarnhau pwy yw'r ymgeisydd ar ôl defnyddio'r dystiolaeth ddogfennol a ddarparwyd, gallwch ofyn i'r ymgeisydd ddarparu ardystiad hunaniaeth neu, mewn rhai achosion prin, fwy nag un ardystiad, neu ardystiad ar y cyd â thystiolaeth ddogfennol. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar y broses ardystio hunaniaeth