Cadarnhau cymhwysedd yr ymgeisydd i gofrestru o dan yr amod preswylfa flaenorol
Er mwyn i ymgeisydd fod yn gymwys i gofrestru o dan yr amod hwn, rhaid ei fod yn arfer byw yn y DU a heb fod wedi'i gofrestru'n flaenorol. Os bydd yr amod preswylfa flaenorol yn gymwys, mae'n ofynnol i ymgeiswyr ddarparu'r cyfeiriad diwethaf lle roeddent yn byw yn y DU. Mae hyn yn ogystal â'r angen i gadarnhau pwy yw'r ymgeisydd.
Os oes gennych reswm i gredu y gallai ymgeisydd fod wedi’i gofrestru’n flaenorol ar unrhyw adeg, yna dylid gwrthod y cais preswylio a dylid cynghori’r etholwr i wneud cais mewn perthynas â’r cyfeiriad diwethaf y’i cofrestrwyd ynddo, hyd yn oed os yw wedi bod yn byw yn rhywle arall ers hynny.
Os ydych chi'n fodlon bod yr amod preswylio blaenorol yn berthnasol, yn hytrach na'r amod cofrestru, mae'n ofynnol i ymgeisydd ddarparu'r cyfeiriad olaf lle'r oedd yn preswylio yn y DU. Mae hyn yn ychwanegol at yr angen i wirio hunaniaeth yr ymgeisydd.
Mae'n rhaid i chi fod yn fodlon bod ymgeisydd yn arfer byw yn y cyfeiriad hwnnw. 1
Gallwch ddewis defnyddio unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd ar gael i chi i'ch helpu i fod yn fodlon bod yr ymgeisydd yn bodloni'r amod preswylfa flaenorol. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau Gwirio gwybodaeth bellach er mwyn bodloni'r amodau cymhwystra ar gyfer etholwyr tramor.
Os na allwch fodloni'ch hun, ar ôl gwirio'r wybodaeth arall sydd ar gael, fod yr ymgeisydd yn bodloni'r amod preswylfa flaenorol, gallwch wrthod y cais.