Cynnal cofrestru etholiadol - Cymru
Trosolwg o’r camau trosiannol sydd eu hangen i alluogi ceisiadau ar-lein am bleidlais absennol
Amlinellu'r ddeddfwriaeth
Mae’r rhan hon o’r canllawiau yn disgrifio’r camau trosiannol sydd angen i chi eu cymryd i roi’r newidiadau a gyflwynwyd gan Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Pleidleisio Absennol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026 ar waith.
Mae’r camau trosiannol yn cynnwys yr angen i gywiro, dileu neu wneud trefniadau pleidleisio absennol yn gydnaws yn ôl yr angen i ganiatáu cydgyfeirio’r cofnodion hyn. Bydd y broses gydgyfeirio hon yna’n galluogi defnyddio gwasanaeth digidol y DU ar gyfer ceisiadau pleidleisio absennol yng Nghymru o’r diwrnod perthnasol.
Diffinnir y diwrnod perthnasol yn y ddeddfwriaeth fel 3 Tachwedd 2026.1
Bydd y canllawiau hyn yn ein helpu i ddeall y pethau canlynol:
- mae'n rhaid i’r anghysondebau mewn trefniadau pleidleisio absennol presennol gael eu dileu
- y camau priodol i’w cymryd i alluogi’r cofnodion i gael eu cywiro, eu dileu neu eu gwneud yn gydnaws erbyn y diwrnod perthnasol
- y camau priodol i’w cymryd cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl y diwrnod perthnasol i ddiweddaru cofnodion a hysbysu pleidleiswyr
Bydd y broses hon yn cynnwys newidiadau meddalwedd i’r System Rheoli Etholiad (EMS) i alluogi cofnodion pleidleisio absennol i gael eu diwygio, eu dileu neu eu gwneud yn gydnaws pan fo etholwyr eisoes gyda threfniadau pleidleisio absennol ar waith ar gyfer etholiadau Senedd y DU ac etholiadau’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu, etholiad y Senedd ac etholiadau Llywodraeth leol.
Cynllunio ar gyfer y camau gofynnol
Bydd angen i chi gynllunio sut a phryd y byddwch yn cymryd y camau gofynnol i alluogi cydgyfeirio cofnodion pleidleisio absennol erbyn y diwrnod perthnasol.
Wrth wneud eich cynlluniau, dylech ystyried y pethau hyn:
- nifer y pleidleiswyr absennol yr effeithir arnynt
- sut y bydd y broses gydgyfeirio yn rhyngweithio â’ch gweithgareddau canfasio
- sut y bydd y broses gydgyfeirio yn rhyngweithio â rhoi’r system Cofrestru Pleidleiswyr yn Awtomatig ar waith
- y posibilrwydd o unrhyw is-etholiadau yn ystod y cyfnod hwn
Yn dibynnu ar nifer yr anghysondebau yn eich cofnodion pleidleisio absennol, rydym yn argymell bod eich cynlluniau yn caniatáu o leiaf 6 wythnos i gyfathrebu ag etholwyr yr effeithir arnynt a phrosesu unrhyw newidiadau yn sgil hynny yn y cyfnod cyn y diwrnod perthnasol. Dylai hyn fod yn ddigon o amser i ymdrin â materion sy’n codi yn sgil hynny, er enghraifft pan fo etholwr yn canfod bod trefniant pleidleisio absennol yn anghywir ar gyfer unrhyw etholiad benodol, a’i fod yn dymuno ymgeisio eto am y trefniant hwnnw.
Rydym wedi crynhoi’r camau sydd i’w cymryd cyn ac ar ôl y diwrnod perthnasol i’ch helpu i gynllunio ar gyfer y gwaith hwn.
Camau cyn y diwrnod perthnasol
Mae’n rhaid anfon hysbysiad o anghysondeb at bob etholwr sydd â threfniadau pleidleisio absennol ar gyfer etholiadau Senedd y DU, etholiadau’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu, etholiadau Llywodraeth leol ac etholiadau y Senedd ac mae’r cofnodion hynny’n cynnwys unrhyw un o’r anghysondebau canlynol:
- danfon pleidlais bost i gyfeiriadau gwahanol2
- hepgor llofnod ar gyfer un ond nid ar gyfer y llall3
- enw dirprwy gwahanol a/neu fanylion cyfeiriad gwahanol4
- trefniant pleidlais bost ar gyfer rhai etholiadau a threfniadau pleidlais drwy ddirprwy ar gyfer etholiadau eraill5
Mae’n rhaid i’r hysbysiad o anghysondeb hysbysu’r etholwr o’r anghysondeb, eglurwch fod ei hawl i bleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy yn etholiadau’r Senedd a llywodraeth leol yn dod i ben ar y diwrnod perthnasol, oni bai bod yr etholwr yn cymryd camau, a’i wahodd i wneud cais newydd mewn pryd er mwyn i’r newid(iadau) angenrheidiol gael eu gwneud i’r cofnod cyn y diwrnod perthnasol.6
Bydd angen i chi brosesu unrhyw geisiadau a wneir mewn ymateb i'r hysbysiadau hyn.
Camau ar ôl y diwrnod perthnasol
Caiff rhai cofnodion pleidleisio absennol eu diweddaru’n awtomatig yn dilyn y diwrnod perthnasol, pan fo’r:
- llofnod a gedwir ar y cofnod yn wahanol ar gyfer etholiadau Senedd y DU, etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu, etholiadau'r Senedd ac etholiadau Llywodraeth leol7
- dyddiadau adnewyddu llofnod yn wahanol ar gyfer penodi dirprwy8
- cyfnod mwyaf ar gyfer trefniant pleidlais bost drwy ddirprwy neud bleidlais bost y Senedd a Llywodraeth leol wedi'i ddiwygio9
Gan fod y rhain yn brosesau awtomatig sydd eu hangen i alluogi cydgyfeirio cofnodion nid oes angen i chi roi unrhyw hysbysiad i’r etholwr bod y newidiadau hyn yn dod i rym.
Mae hefyd yn ofynnol i chi ddiweddaru’r cofnodion pleidleisio absennol lle bo trefniant pleidlais bost drwy ddirprwy ar waith ar gyfer etholiadau Senedd y DU a’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu ac etholiadau’r Senedd a Llywodraeth Leol, drwy gael gwared ar drefniant pleidleisio post drwy ddirprwy ar gyfer etholiadau’r Senedd a Llywodraeth leol. Yn y sefyllfa hon, mae’n rhaid i chi hysbysu’r etholwr a’r dirprwy o’r newid hwn, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl y diwrnod perthnasol.10
- 1. Rheoliad 29, Rhan 7, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2026 (Pleidleisio Absennol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (AVR 2026) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 34, Rhan 7, AVR 2026 (Cymru) ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheoliad 36, Rhan 7, AVR 2026 (Cymru) ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheoliad 37, Rhan 7, AVR 2026 (Cymru) ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Rheoliad 38, Rhan 7, AVR 2026 (Cymru) ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Rheoliadau 34, 36, 37, 38, 39, Rhan 7, AVR 2026 (Cymru) ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Rheoliad 35, Rhan 7, AVR 2026 (Cymru) ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Rheoliad 33, Rhan 7, AVR 2026 (Cymru) ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Rheoliad 32, Rhan 7, AVR 2026 (Cymru) ↩ Back to content at footnote 9
- 10. Rheoliad 31, Rhan 7, AVR 2026 (Cymru) ↩ Back to content at footnote 10