Cynnal cofrestru etholiadol - Cymru
Cyflenwi ac archwilio'r rhestrau pleidleisio absennol
Mae rhestrau pleidleisio absennol a gwybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn y cofnod pleidleisio absennol a fyddai'n cael ei defnyddio i lunio rhestrau petai etholiad ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio. Gellir darparu copïau o'r rhan berthnasol, am ddim, i'r canlynol:1
- cynrychiolwyr etholedig
- pleidiau etholaethol lleol
- pleidiau gwleidyddol
- ymgeiswyr
Y rhan berthnasol yw'r un rhan a nodir yn y rheoliadau ar gyfer darparu'r gofrestr etholiadol. Ceir manylion yn ein hadnodd:
Dylid cadw cofnod o bob unigolyn neu sefydliad sydd wedi cael copi o'r rhestrau pleidleisio absennol. Bydd hyn yn helpu i ddangos eich bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data ac egwyddorion prosesu data personol, gan sicrhau y cânt eu prosesu mewn modd cyfreithiol, teg a thryloyw.
Cofnodion ar gyfer pleidleiswyr absennol dan 16 oed
Dim ond Swyddogion Cofrestru Etholiadol a'u staff a all gael gafael ar ddata yn ymwneud ag unigolion dan 16 oed a'u defnyddio. Ni ddylai unrhyw fersiwn o'r gofrestr nac unrhyw restrau pleidleisio absennol a gyhoeddir neu a ddarperir fel arall, gynnwys y data hynny. Fodd bynnag, gellir datgelu'r data:2
- i'r unigolyn ei hun (gan gynnwys i ddangos ei fod yn rhoddwr a ganiateir ac, os felly, rhaid i'r data gael eu datgelu) neu unigolyn a benodwyd ganddo yn ddirprwy i bleidleisio ar ei ran
- at ddiben ymchwiliad troseddol neu achos troseddol yn ymwneud â chofrestru etholwyr neu gynnal etholiadau
- mewn deunydd cyfathrebu rhagargraffedig am ganfasio a anfonir i gartref fel rhan o'r canfasiad blynyddol, ond ni ddylid rhagargraffu dyddiad geni unrhyw unigolyn dan 16 oed
- i Swyddogion Cofrestru Etholiadol mewn perthynas â chofrestru etholwyr neu gynnal etholiadau.
Yr unig eithriad arall yw y gellir, cyn etholiad Senedd Cymru neu etholiad llywodraeth leol, ddatgelu'r wybodaeth am yr unigolion hynny dan 16 oed a fydd yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiad (h.y. a fydd yn cyrraedd 16 oed cyn neu ar y diwrnod pleidleisio) at ddiben yr etholiad neu mewn perthynas â hi, yn y gofrestr etholiadol, rhestr y pleidleiswyr post, y rhestr o ddirprwyon a'r rhestr o ddirprwyon sy'n pleidleisio drwy'r post, a gyflenwir i'r canlynol:3
- ymgeiswyr ar gyfer etholiadau Senedd Cymru ac etholiadau llywodraeth leol at ddibenion etholiadol neu i gydymffurfio â'r rheolau o ran rhoddion gwleidyddol
- y Swyddog Canlyniadau at ddibenion etholiadau Senedd Cymru neu etholiadau llywodraeth leol
- y Comisiwn Etholiadol - yn yr achos hwn, dim ond mewn perthynas â'i swyddogaethau yn ymwneud â rheoli rhoddion a chyhoeddi gwybodaeth am roddwyr y caiff y Comisiwn ddefnyddio'r wybodaeth, ond o ran yr olaf o'r rhain, ni chaiff gyhoeddi enwau na chyfeiriadau unigolion dan 16 oed
Ni ddylai'r wybodaeth a roddir cyn pleidlais gynnwys dyddiadau geni nac unrhyw beth arall a fyddai'n nodi bod pleidleisiwr o dan 16 oed.
Ni ddylid rhoi unrhyw wybodaeth am unigolion dan 16 oed i unrhyw unigolyn na chorff arall.
Cyn pleidlais
Cyn pleidlais, dylech esbonio i ymgeiswyr a phleidiau fod y rhestrau pleidleisio absennol ar gyfer yr etholiad hwnnw ar gael a nodi sut y gellir gwneud cais. Os byddwch yn cael cais am y rhestrau pleidleisio absennol, dylech weithredu'n brydlon. Bydd rhannu rhestrau pleidleisio absennol ag ymgeiswyr a phleidiau yn amserol yn helpu i hyrwyddo hyder yn y broses o weinyddu'r etholiad a helpu ymgeiswyr a phleidiau i ymgyrchu.
Rhaid i gais gael ei wneud yn ysgrifenedig, gan nodi'r canlynol:4
- yr wybodaeth y gofynnir amdani
- a yw'r cais ar gyfer y rhestrau cyfredol yn unig, neu a yw'n cynnwys cais am y rhestr derfynol
- a oes angen y wybodaeth ar ffurf argraffedig neu ar ffurf data
Rhaid i ddiweddariadau y mae angen i chi eu gwneud i'r rhestrau er mwyn cynnwys manylion y rhai y penderfynwyd ar eu ceisiadau am bleidlais absennol ar ôl y terfyn amser a'r rhai sydd wedi gwneud ceisiadau llwyddiannus am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng gael eu rhannu â'r rhai sydd wedi gofyn am gopi o'r rhestrau terfynol hefyd.5
Cyflenwi cofnodion dynodyddion personol a ddarparwyd ar gais am bleidlais absennol
Nid yw'r cofnodion dynodyddion personol (sy'n cynnwys y llofnodion a'r dyddiadau geni a ddarparwyd am gais am bleidlais absennol) ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio ac nid ydynt ar gael i'w cyflenwi ychwaith.
Mae'n rhaid i chi roi copi o'r cofnodion pleidleisio drwy'r post i'r Swyddog Canlyniadau, neu ganiatáu iddo eu gweld, at ddibenion cynnal y gwiriadau dynodyddion personol ar ddatganiadau pleidleisio drwy'r bost a ddychwelwyd.7
Ni chaiff ymgeiswyr nac asiantiaid archwilio ffurflenni cais, oni bai mai eu ffurflen nhw yw hi. Fodd bynnag, caniateir i'r Swyddog Canlyniadau ddangos y cofnod perthnasol yn y cofnod o ddynodyddion personol (h.y. enw, llofnod (oni bai fod hepgoriad wedi'i ganiatáu) a dyddiad geni'r pleidleisiwr perthnasol) i asiantiaid yn ystod proses ddilysu.8
Yn ogystal, mae hawl gan destun data weld gwybodaeth bersonol a gedwir amdano. Rhaid i wybodaeth y mae testunau'r data yn gofyn amdani gael ei rhoi yn ddi-oed ac yn bendant o fewn mis (er y gall hyn fod yn ddeufis o dan rai amodau).
O dan ddeddfwriaeth diogelu data, rhaid i wybodaeth gael ei darparu am ddim. Gellir codi ffi am gopïau ychwanegol, ond rhaid i'r swm hwnnw fod yn rhesymol ac yn seiliedig ar gostau gweinyddol. Nid oes angen i'r cais gael ei wneud yn ysgrifenedig, ond rhaid i chi gadarnhau pwy yw'r sawl sy'n gofyn cyn bodloni'r cais.
Gall pleidleisiwr post sydd wedi cael hysbysiad gwrthod dynodyddion pleidlais bost, er enghraifft, ofyn am gael gweld ei ddatganiad pleidleisio drwy'r post. Mae mwy o wybodaeth am archwilio hysbysiadau gwrthod dynodyddion pleidleisiau post ar gael yn ein cwestiynau cyffredin ar gyfer hysbysiadau gwrthod pleidlais bost:
- 1. Atodlen 1, paragraff 18, Gorchymyn Senedd Cymru (2025), Rheoliad 61 Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Adran 25 Deddf y Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Adran 25 (4) a (5) Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 1, paragraff 18(3), Gorchymyn Senedd Cymru Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 Rheoliad 61(2) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 1, paragraff 18(3), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025, Rheoliad 61(7) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Atodlen 1, paragraff 18(7), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025, Rheoliad 61(6) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Atodlen 4 Paragraff 7C Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Atodlen 1, paragraff 4(5), Gorchymyn Senedd Cymru (cynrychiolaeth y Bobl) 2025, Rheoliad 85A Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 8