| Argraffu'r canllawiau llawn

Marcwyr cofrestr pleidleisio absennol

Ar ôl i'r chweched diwrnod cyn yr etholiad fynd heibio, ac ar ôl penderfynu ar bob cais am bleidlais absennol cyn etholiad, bydd angen i chi baratoi'r cofrestrau etholiadol a gaiff eu defnyddio yn y gorsafoedd pleidleisio.


Ar y gofrestr yn yr orsaf bleidleisio, mae'n rhaid marcio'r llythyren ‘A’ wrth ochr enwau'r etholwyr sydd wedi cael caniatâd i bleidleisio drwy'r post ac etholwyr y mae eu dirprwyon wedi cael caniatâd i bleidleisio drwy'r post.1 Dylai eich System Rheoli Etholiad allu argraffu cofrestrau i'w defnyddio yn yr orsaf bleidleisio mewn unrhyw etholiad. Nid oes unrhyw ffordd ragnodedig o farcio pleidleiswyr sy'n pleidleisio drwy ddirprwy ar gofrestrau gorsafoedd pleidleisio, er y bydd y llythyren ‘P’ yn ymddangos cyn eu henw mewn llawer o achosion.  
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 17 Tachwedd 2025