Tynnu pleidleiswyr post o’r cofnodion a’r rhestrau pleidleisio absennol pan fydd eu trefniant wedi dod i ben
Os nad ydych wedi cael cais newydd mewn ymateb i hysbysiad ail-ymgeisio am bleidlais bost erbyn y dyddiad y daw’r trefniant i ben, mae’n rhaid i chi, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, dynnu’r cofnod o’r cofnodion pleidleisio absennol a’r rhestr berthnasol (rhestr pleidleiswyr post, neu restr pleidleiswyr post drwy ddirprwy). Mae’n rhaid i chi hefyd dynnu cofnod yr unigolyn hwnnw o’r cofnod perthnasol o geisiadau pleidleisio absennol a roddwyd.
Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi gadw llofnod a dyddiad geni’r etholwr a ddarparwyd ynghynt ar y cofnod o ddynodyddion personol am gyfnod o ddeuddeg mis o’r dyddiad y cafodd yr etholwr ei dynnu o’r cofnod o geisiadau a ganiateir.
Mae’n rhaid i chi ysgrifennu at yr etholwr i’w hysbysu bod ei hawl i bleidlais bost wedi cael ei dileu.
Dylai’r hysbysiad:
egluro bod pleidlais bost yr unigolyn wedi cael ei thynnu oherwydd nad oes cais newydd wedi dod i law, ac os yw’n dymuno pleidleisio, gall wneud hynny mewn gorsaf bleidleisio yn unig o hyn ymlaen
roi gwybod iddo am ei orsaf bleidleisio
ei atgoffa y gall wneud cais newydd am bleidlais bost a rhoi gwybodaeth ynghylch sut y gall wneud hyn
Pan gaiff dirprwy drwy’r post ei dynnu o’r cofnod a’r rhestr o ddirprwyon drwy’r post, gallwch hefyd ysgrifennu at yr etholwr a benodwyd y dirprwy ac egluro er bod y penodiad dirprwy yn parhau ar waith (ar yr amod nad yw’r etholwr wedi colli ei hawl i bleidleisio drwy ddirprwy), mae’n rhaid i’w ddirprwy fynd i orsaf bleidleisio’r etholwr i bleidleisio ar ei ran neu wneud cais newydd am bleidlais bost. 1