Cynnal cofrestru etholiadol - Cymru
Y broses o roi gwybod i bleidleiswyr post am yr angen i ail-ymgeisio
Mae’n rhaid i chi nodi nifer y pleidleiswyr post cartref sydd â threfniant am y tymor hwy a fydd yn cyrraedd diwedd y cyfnod hiraf posibl a ganiateir ar 31 Ionawr pob blwyddyn.
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i bleidleiswyr post a nodir o’r pethau hyn:
- pryd daw eu trefniant cyfredol i ben
- os ydynt yn dymuno parhau i bleidleisio drwy’r post, bydd angen iddynt gyflwyno cais newydd am bleidlais bost
Pryd i anfon hysbysiadau ail-ymgeisio am bleidlais bost?
Lle y cafodd trefniant pleidleisio drwy’r post ar gyfer pleidleisiwr post cartref neu ddirprwy sy’n pleidleisio drwy’r post ei wneud am y cyfnod hiraf posibl, daw i ben os na chaiff cais newydd ei wneud erbyn y trydydd 31 Ionawr yn dilyn y dyddiad y cafodd penderfyniad ei wneud ar y cais.
Er enghraifft, os cafodd penderfyniad ei wneud ar gais etholwr ar 1 Chwefror mewn unrhyw flwyddyn benodol, bydd trefniant pleidlais bost yr etholwr yn parhau am y 3 blynedd lawn a daw i ben ar y trydydd 31 Ionawr ar ôl y dyddiad y cafodd penderfyniad ei wneud arno.
Os cafodd penderfyniad ei wneud ar gais etholwr ar 1 Ebrill mewn unrhyw flwyddyn benodol, y cyfnod hiraf y byddai trefniant pleidlais bost yr etholwr yn parhau yw hyd at y trydydd 31 Ionawr ar ôl y dyddiad cafodd penderfyniad ei wneud arno, h.y. llai na’r tair blynedd lawn.
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r pleidleiswyr post hynny y mae eu trefniant yn dod i ben ar 31 Ionawr ym mha bynnag flwyddyn ac o’r angen i ail-ymgeisio. Mae’n rhaid i chi wneud hyn cyn y dyddiad y daw eu trefniant i ben .
Nid yw deddfwriaeth yn darparu amserlen ar gyfer anfon yr hysbysiad, ond mae angen sicrhau digon o amser i etholwyr ymateb i’r hysbysiad a chyflwyno cais newydd cyn y daw eu trefniant pleidleisio post presennol i ben. Caiff cyfnod o tua chwe wythnos ei ystyried yn rhesymol.
Ar ôl tair wythnos o ddyddiad yr hysbysiad gwreiddiol, os na chafwyd ymateb, gallwch ddewis anfon nodyn atgoffa. Er nad oes rhaid anfon nodyn atgoffa, efallai y bydd gwneud hyn yn lleihau’r risg o drefniant pleidleisio bost yn dod i ben drwy amryfusedd os nad yw’r hysbysiad gwreiddiol wedi cyrraedd yr unigolyn.
Bydd y broses diweddaru llofnod ar gyfer yr holl ddirprwyon fel arfer yn cyd-ddigwydd gan fod angen i’r broses hon gael ei chwblhau erbyn 31 Ionawr pob blwyddyn. Efallai y bydd hyn yn caniatáu i chi reoli’r broses ysgrifennu a dilyn i’r holl bleidleisiwyr absennol fel un ymarfer.
Dull ar gyfer anfon hysbysiadau ail-ymgeisio am bleidlais bost
Chi sy’n penderfynu ar y dull ar gyfer anfon hysbysiadau ail-ymgeisio am bleidlais bost - naill drwy e-bost neu drwy’r post.
Wrth benderfynu pa ddull cysylltu i’w ddefnyddio, dylech feddwl am sut i sicrhau bod gan etholwyr y cyfle gorau posibl i ymateb a pharhau â’u trefniant pleidleisio drwy’r post.
Gallwch bennu y bydd cyfuniad o gyswllt drwy e-bost a thrwy’r post yn defnyddio’ch adnoddau’n effeithlon. Er enghraifft, efallai y byddwch yn penderfynu anfon yr hysbysiad gwreiddiol drwy e-bost a defnyddio nodyn atgoffa drwy’r post pan na chafwyd ymateb.
Lle’r ydych yn penderfynu anfon hysbysiadau drwy e-bost, dylech sicrhau eich bod wedi meddwl am y pethau hyn:
- unrhyw oblygiadau diogelu data o ran defnyddio cyfeiriadau e-bost ar gyfer y diben hwn
- pa mor gywir a pha mor gyfredol yw’r manylion cyswllt sydd gennych a sut y byddwch yn rheoli unrhyw e-byst nad ydynt yn cael eu danfon neu sy’n adlamu
- sut y byddwch yn sicrhau bod etholwyr yn gwybod bod yr e-gyfathrebiadau rydych yn eu hanfon yn rhai gonest er mwyn iddynt ymateb yn hyderus yn unol â hynny
Sut bynnag y byddwch yn penderfynu anfon yr hysbysiadau ail-ymgeisio, dylech gadw cofnod o enw pob unigolyn rydych wedi anfon hysbysiad ato, y dull a ddefnyddiwyd i anfon yr hysbysiad, y cyfeiriad/cyfeiriad e-bost yr anfonoch yr hysbysiad iddo, a dyddiad yr hysbysiad.
Etholwyr tramor - yr angen i ail-ymgeisio neu ddiweddaru trefniadau pleidleisio absennol
Bydd y broses ar gyfer etholwyr tramor sydd â threfniadau pleidleisio absennol yn gysylltiedig â’u cofrestriad etholiadol. Bydd angen iddynt ail-ymgeisio am eu pleidlais bost yr un pryd ag y maent yn diweddaru eu cofrestriad.